Breuddwydion Myfanwy Edrychai'n union fel pe bai rhywun wedi ei wneud. Beth os oedd rhywun heblaw hwy yn byw ar yr ynys! Yr oedd ar Llew a Gareth awydd glanio a mynd i edrych. Cytunodd y lleill. Aed â'r cwch at y traeth bychan oedd ar eu cyfer, a rhoddwyd ef yn ddiogel wrth fôn coeden.
Wedi cyrraedd pen uchaf y llannerch, gwelsant fod llwybr yn arwain oddiyno i fyny trwy'r goedwig, neu o leiaf, fod llwybr wedi bod yno. Gellid yn hawdd ei ddilyn er bod y prysgwydd wedi tyfu drosto. Llwybr cul iawn ydoedd am ychydig lathenni ar y dechreu, yna ymagorai nes bod tua chwe troedfedd o lêd. Ymblethai cangau'r coed yn dew uwch ei ben nes ei wneud fel arcêd, a chau allan oleu'r haul bron yn llwyr. Arweiniai llwybrau eraill culach allan ohono, yma a thraw, ar dde ac ar aswy. Rhaid bod teithio mawr wedi bod ar y llwybrau hyn rywbryd, neu ni buasai eu hôl wedi aros. Gan bwy? I ba le? I ba beth? Dyna'r cwestiynau a lanwai feddyliau y pum teithiwr oedd yno yn awr.
Wedi troi a throi a dringo'n raddol o hyd, daethant allan i le gweddol wastad. Lle wedi ei glirio yn y diffeithwch oedd hwn hefyd, ond yr oedd y prysgwydd wedi ail-dyfu a chyrhaeddai at ysgwyddau Gareth a Llew pan geisient gerdded drwyddo. Yr oedd carreg fawr wastad ar y canol, bron â'i chuddio erbyn hyn gan lysiau a mwsogl. Yma a thraw o'i chylch gwelsant ddarnau o goed plethedig fel gweddillion hen fur. Trawodd troed Gareth yn erbyn rhywbeth rhyfedd iawn a hanner ymguddiai yn y prysgwydd. Bôn