Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pren ydoedd wedi ei dyllu o'r tu mewn, ac wyneb dyn wedi ei gerfio arno o'r tu allan. Yr oedd tua thair troedfedd o hyd, ac edrychai yn rhywbeth ofnadwy iawn.

"O! beth ydyw? ebe Myfanwy'n frawychus.

"Drwm—ddelw,' ebe Mr. Luxton, ac edrych ar y tyst distaw hwnnw'n sýn.

"Y mae'n amlwg bod rhywrai wedi bod yn byw yma," ebe Llew.

"Y maent wedi mynd oddiyma er ys llawer dydd, a da hynny," ebe Madame.

Ar y funud cododd haid o barôtau gydag ysgrechain oer i'r awyr. Bu Madame a Myfanwy bron â llewygu gan ofn.

"Olion teml sydd yma, onide, Mr. Luxton?" ebe Llew. "Dyna yw fy marn innau," ebe Mr. Luxton.

"Diolch mai olion sydd yma. Y mae'n hawdd gweld na fu neb yma er ys tro.'

Ni ddywedodd Mr. Luxton y cwbl oedd ar ei feddwl. Yr oedd arno ofn gwneud y lleill, yn enwedig Madame a Myfanwy, yn anesmwyth. Nid oedd ef ei hun yn gwbl dawel ei feddwl. Darllenasai lawer gwaith am anwariaid yn dyfod o ynysoedd eraill i ryw ynys neilltuol lle'r oedd teml. Deuent â'u carcharorion gyda hwy. Yna byddai llu o seremoniau yn y deml, curo'r drymiau hyll, canu a dawnsio, ac yna, lladd y carcharorion, eu rhostio, a gwledda arnynt. Yn ddiddadl, un o'r lleoedd hynny oedd hwn. Lle'r glanio oedd y llannerch wrth y môr. Ar hyd y llwybrau llydain troeog y llusgent neu y gyrrent y carcharorion. Diben y llwybrau culach, oedd dyrysu rhyw druan a geisiai