ddianc. "Pe medrai'r coed yma siarad," meddai Mr. Luxton ynddo'i hun, "byddai eu stori ryfedd yn ddigon i godi gwallt y dewraf." Am ryw reswm yr oeddynt wedi peidio â dyfod, ai am dymor ai am byth, pwy a wyddai? Yr oedd yn dda mai ar yr ochr hyn i'r ynys yr oedd y lle. Gallent ddyfod a mynd heb weld neb na chael eu gweld. Bu Mr. Luxton yn effro lawer nos wedi hyn yn dychmygu clywed bwm! bwm! y tabyrddau, a chanu pell yr anwariaid.
Wrth fynd at y cwch cododd Myfanwy rywbeth o'r tywod sych yn ymyl y tir.
"O, edrychwch!" ebe hi wrth y lleill. "Beth yw hwn?"
Darn o asgwrn tua dwy fodfedd o hyd ydoedd.
Disgleiriai fel gwydr. Ar un pen iddo, wedi ei osod yn ofalus, yr oedd perl du mawr.
"O Myfanwy!" ebe Madame. "Byddwch chwi'n ferch gyfoethog ryw ddydd. Y mae'r perl yna yn werth arian mawr."
"Y mae'n werth can punt o leiaf," ebe Mr. Luxton.
Un o addurniadau rhyw ddyn gwyllt ydyw. Ie, dyma'r agen fechan yma ynddo. Tebig mai hongian wrth ei glust ydoedd."
"O, Mr Luxton! Beth a wnaem pe deuai'r dynion gwyllt yma eto?" ebe Myfanwy.
Nid yw'n debig y deuant eto," ebe Mr. Luxton yn gryf. Efallai eu bod wedi adeiladu teml ar ryw ynys arall, neu efallai bod cenhadwyr wedi dyfod atynt a'u troi oddiwrth eu hofergoeledd."