Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhai ar gynllun y rhai hynny oedd y ddau dŷ newydd i fod. Yr oedd yn rhaid cael nifer dda o bolion, a'u plannu yn y ddaear, a phlethu gwiail rhyngddynt i wneud muriau. Tô gwastad a fyddai iddynt wedi ei wneud o gangau coed a digon o ddail drostynt. Yr oedd yn amhosibl iddynt wneud drysau a ffenestri, felly gadawyd agoriad mawr lle y dylai drws fod. Ceid felly ddigon o oleu ac awyr i'r ystafell.

Cyllell Gareth oedd yr unig arf a feddent. Trwy lawer o amynedd a dyfalbarhad y cawsant y polion yn barod. Cymerodd y plethu a'r toi lai o amser. Cyn pen pythefnos yr oeddynt yn barod. Yr oedd ganddynt gartref bellach. Cartref digon gwag ydoedd, ond yr oedd yn gysgod hyfryd rhag yr haul a'r gwlith ac yn lle i ddyfod iddo o bobman. Tu allan, wrth gwrs, y coginient eu bwyd, a'r ogof oedd eu hystordy.