Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV

Mae'r gwyntoedd bellach yn rhuthro trwy y glyn,
A'r goedwig fawr yn plygu o'i blaen, a'r neint
Yn rhuo dan ei fflangell.
—ISLWYN (Ystorom Fellt).

UN prynhawn Sul eisteddai Llew a Gareth a Myfanwy o dan gysgod y Pren Bara yn ymyl eu cartref. Yr oedd yn brynhawn hynod o drymaidd. Dyna ddistaw oedd popeth ar yr ynys! Ni chlywid ond lap, lap, ysgafn y lagŵn ar y traeth a rhu pell yr eigion tudraw. Yr oedd sŵn bygythiol yn y rhu hwnnw, a phopeth arall fel pe wedi distewi mewn ofn wrth wrando arno.

Yn union ar ôl gwasanaeth y bore aethai Mr. Luxton am dro i ben y bryn. Yr oedd Madame yn y tŷ yn cysgu. Edrych trwy almanac Llew yr oedd y tri phlentyn, os gellid bellach eu galw'n blant. Yr oedd pob un ohonynt wedi tyfu o leiaf fodfedd wedi eu dyfodiad i'r ynys. Yr oedd haul a môr wedi lliwio'u crwyn hefyd. Dawnsiai iechyd ar eu gruddiau. Rhaid bod hinsawdd a bwyd y rhan honno o'r byd yn cytuno â hwy. Nid oedd cystal graen ar eu dillad. eu golchi'n fynych, mwy dilewych yr aent bob dydd. Yr oedd deg o farciau ar yr almanac erbyn hyn yn dangos bod deg o ddyddiau'r flwyddyn newydd wedi