Tudalen:Brithgofion.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gellyg y moch oedd yr enw arnynt. A grawn y marchfieri, rhai'n grwn ac yn goch, eraill yn hirgrwn ac yn felyn gloyw. Byddai merched bach yn gwneud cadwynau del iawn ohonynt a'u gwisgo am eu gyddfau.

Tua'r un amser, byddai goleuni rhyfeddol iawn i'w weled tua'r hwyr ar y marian y tu draw i'r Coed Uchaf, golau meddal, melyn fel mêl gloyw, a rhywbeth annaearol ynddo. Hwyrach mai'r elfen annaearol honno a barodd. i mi unwaith freuddwydio breuddwyd nad anghofiais mono hyd heddiw. Byddai gan fy nhad air a arferai yn aml wrth sôn am rywun mewn hwyl dda-" 'Roedd o ar uchelfannau'r maes," meddai. Y breuddwyd oedd fy mod yn gweled y "Cae o Flaen y Drws " yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd mewn gwirionedd. Yn lle bod yn codi'n raddol iawn o'r buarth at y caeau gwastatach y tu draw iddo, codi yr oedd yn y breuddwyd yn risiau megis o greigiau moel a haenau, ynddynt, yr un fath â'r Marian, a phob gris gwastad yn wyrdd iawn a'r grisiau uchaf yn colli o'r golwg yn y cymylau, a'r goleuni meddal fel mêl gloyw yn gorwedd ar y cwbl. A dyna, yn fy meddwl i, yn dyddiau hynny, oedd y " maes," canys maes oedd y cae llafur yr âi'r wedd iddo yn ei phryd i aredig-" mynd i'r maes," neu "fynd i faesa," fel y dywedwn. A'r peth a welais yn fy mreuddwyd oedd uchelfannau'r maes." Codais yn gynnar y bore a mynd i edrych ar y "Cae o Flaen y Drws." Fel yr oedd bob amser yr oedd erbyn hynny, ond bu'r "Uchelfannau " hynny'n fy nilyn am amser maith. Gallaf, yn wir, eu gweled eto fel y gwelais yn y breuddwyd.

Gwyn ei fyd y sawl a gaffai drigo beunydd ar faes tan y goleuni hwnnw-nas gwêl, efallai, onid breuddwydion ieuenctid . . .

Unwaith, ynghanol y Coed Uchaf, yn ymyl llannerch agored a llyn gweddol ddwfn lle'r oedd tro yn yr afon ag iddo draeth bychan o gerrig wedi eu cludo gan y dwfr a'r llif, clywais sŵn nas clywswn o'r blaen yno. Cofiais yn y fan am un o'r dychmygion a fyddai gennym, yn gofyn beth oedd

"Cnoc, cnoc yn y coed,
Pedwar llygad ag un troed?"

Yr ateb oedd "Buddai gnoc," hen fuddai gyntefig, pawl syth drwy dwll yn y caead, ynglŷn â pheth tebyg i stôl