Tudalen:Brithgofion.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bedwartroed, at guro a throi'r llaeth yn ymenyn gynt. Nid oedd fodd bod yno neb yn gweithio buddai gnoc yn y fan honno. Mynd yn nes yn araf a distaw. Ar y traeth bach, yr oedd mwyalchen a malwen gorn yn ei phig, ac yn curo honno yn erbyn y cerrig, yna'n bwyta'r falwen. Torrodd darn o bren crin dan fy nhroed, ac ymaith â'r fwyalchen. Yr oedd yno amryw gregin wedi eu torri a darn malwen yn un ohonynt. Yr oeddwn wedi tarfu'r fwyalchen ar ganol ei phryd bwyd.

Gwelais yno hefyd gudyll coch (y "genlli goch " a ddywedem ni) yn dyfod i drychineb sydyn unwaith. Yr oedd yr aderyn yn hofran yn ei unfan uwchben. Yn y man daeth i lawr fel carreg ac yna i fyny yn ei ôl fel ergyd. Ond bron yn ddioed, dyma ysgrech, ac i lawr â'r aderyn nes oedd ar y ddaear yn llonydd, a'i blu yn disgyn o'r awyr ar ei ôl. Erbyn edrych, yr oedd wedi marw, a llygoden ddŵr gydag ef, wedi ei lladd gan y codwm.

Yn y Coed Pellaf, fel y byddem yn eu galw, yr oedd rhaeadr bychan, y cyntaf i mi ei weled erioed, yn llifo dros glogwyn gweddol uchel a disgyn i bwll yn y graig ar y gwaelod. Pistyll Brido" y byddai pobl yn ei alw. Clywais fy nhaid yn dywedyd bod coel pan oedd ef yn ieuanc y byddai rhyw rinwedd ar y dwfr hwnnw. Byddai pobl yn myned yno ac yn dal llaw neu ryw ran o'r corff dan y dwfr at wella rhyw anap neu boen. Yr oedd ef ei hun unwaith wedi rhoi ei ffêr o'i lle. Dywedwyd wrtho mai'r peth i'w wneud oedd myned at Bistyll Brido a dal ei droed tan godwm y dŵr. Gwnaeth hynny. Yr oedd y dŵr yn oer ofnadwy er ei bod ynghanol haf ar y pryd, a'r boen yn ei ffêr yn annioddefol ganddo. Ond yr oedd yn rhaid dal ati, a hynny a wnaeth yntau, nes bod ei galon yn mynd yn sal a rhyw niwl yn dyfod tros ei lygaid, meddai yn sydyn, dyma glec yn y ffêr. Meddyliodd fod yr asgwrn wedi torri, ond y cymal oedd wedi mynd i'w le dan gwymp y dŵr.

Tyfai coed pîn ar ben y clogwyn, a byddent yn y gaeaf yn edrych yn dduon, ynghanol y coed moelion eraill, golwg bygythiol arnynt o bell. Efallai mai dyna'r rheswm nad oeddwn erioed wedi bod yno, ond wedi clywed ystori fy nhaid euthum cyn belled a'r pistyll un prynhawn poeth yn yr haf. Nid oedd lawer o ddŵr yn y ffrwd, dim ond rhyw linyn gloyw yn disgyn i'r pwll