Tudalen:Brithgofion.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynnes i flaenau'r bysedd merwin, gan saethu i'r ffroenau a gwingo yn y glust. Yr oedd y ddaear fel y dur, a dim modd i aderyn bach gael pryfyn o'r pridd, oni bai fod yno rywun yn cloddio. Yr oedd yno un bron—goch wrth fy nhraed o hyd, a haid o adar to wedi dyfod o'r ydlan i chwilio am saig. Taflwn abwydyn i'r bron-goch, a chadw'r lleill draw er mwyn i'r bychan gwylaidd gael. chwarae teg, canys lladron bach hy yw'r adar to. Pan daflwn garreg atynt hwy, ymsaethent i'r awyr, fel darn of liain o flaen y gwynt, a disgyn rai llathenni draw, a dywedyd pethau cas amdanoch chwi a'r bron-goch, a wyddai'n burion nad oedd ef mewn perygl, ac na symudai. Y noswaith honno daeth eira trwm i lawr. Pan euthum heibio'r fan drannoeth, â thamaid-ganol-y-bore i Domos Dafydd, yr oedd y bron—goch bach wedi rhewi'n gorn yn ymyl y caib a'r rhaw a adewais yno'r diwrnod cynt. Ond nid oedd yno un aderyn to wedi trigo. Onid oedd yr ydlan a thrigfan dyn—eithaf brawd iddo ef—heb fod ymhell, a thyllau cynnes ganddo yntau yn y teisi gwair a gwellt a wnaeth ei frawd er ei fwyn, iddo gael lloches rhag yr hin? Cloddiais drwy'r eira i'r bastai a chleddais y bron-goch bach yno. "Be 'newch chi?" meddai Tomos Dafydd. Dywedais wrtho. "Bu yma drwy'r prynhawn wedi i chi fynd. Rhai bach annwyl ydyn nhw. Glywsoch chi'r stori sut y cafodd o fron goch?" "Naddo?" "Wel, pan oedden nhw'n croes-hoelio Iesu Grist, ac wedi codi'r groes a'r gwaed yn llifo dros 'i dalcan o, achos piga'r goron ddrain, dyma aderyn bach yn disgyn ar i ben o ac yn ceisio tynnu'r piga allan o'i gnawd o. Ac felly yr aeth bron yr aderyn bach yn goch gan i waed O." Rhwbiodd yr hen ŵr ei lygaid â'i figyrnau caled, a chymryd arno lenwi ei bibell. Hen ŵr bach caredig, a'i gof yn llawn o straeon am adar a phob math o greaduriaid a hen draddodiadau am Iesu Grist pan oedd yn hogyn bach, rhai ohonynt i'w cael, fel y gwn erbyn hyn, ym "Mabinogi Iesu Grist " yn Gymraeg. Pan adroddai rai o'r rheiny byddai'r Hen ŵr bob amser yn rhwbio'i lygaid â'i figyrnau ac yn cymryd arno lwytho'i bibell, ac yna ei dodi ym mhoced ei wasgod lewys.

Er oered fyddai'r rhew anghysurus, syndod fyddai gwaith y gof arian yn y coed tra byddai'r heth, yn enwedig yn yr afon—dioddefech annwyd mawr yn eich traed er