Tudalen:Brithgofion.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyn cael golwg arno. Gadawai ar ei ôl bob math ridens ar flaenau'r drain a'r cawn, a'r rheiny'n dawnsio ac yn disgleinio yn yr haul pan dywynnai, a lluniau mil o bethau bach cywrain a phrydferth ar y rhew ar wyneb ambell lyn yn yr afon-lluniau rhedyn, coed pîn, ambell gamfa, mynyddoedd uchel a choed a'u brigiau'n gŵyro i lawr at y ddaear, fel ambarel ar hanner ei hagor. Cnau a mes arian gloyw yn dawnsio ar flaenau'r drain lle byddai'r dŵr eto'n rhedeg, a'r dŵr yn gwibio fel nadredd tan y rhew, gan wneud rhyw sŵn bach cwynfannus, fel pe buasai yntau'n ei chlywed yn oer ac yn tagu wrth geisio dianc i rywle dan gysgod torlan.

Pan ddôi awel wanwyn drwy'r coed o'r diwedd, doi'r gwehydd lliwiau yntau ryw noswaith a dechrau arni, ac ni fedrai neb gyfrif ei orchestion ef. Ond ni bûm byth yn y Coed hynny wedyn.

Lle felly oedd yr Hen Gartref.