Tudalen:Brithgofion.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efallai, yn tynnu at y terfyn, cymerais yn fy mhen gysgu allan rhwng dwy fatingen mewn tas wellt gwenith yn yr ydlan ar fferm fy nhad, un noswaith fwll iawn. Nid yn yr Hen Gartref yr oeddwn bellach, ond yng nghyfnod yr Hen Gartref yr oeddwn yn byw ac yn bod y dyddiau hynny, a Thwrc oedd fy nghi-yn hytrach, myfi oedd ei ddyn ef ers tro.

Gyda'm bod wedi gwneud fy ngwâl yn gysurus a gorwedd rhwng y bating, dyma Dwrc ar ei hedlam yn disgyn yn f'ymyl. Safwyrodd o'm hamgylch, llyfodd fy llaw. Yna aeth a rhoes dri neu bedwar tro wrth fy nhraed, i wneud gwely iddo'i hun fel y byddai ei hynafiaid yn y cawn cyntefig. Yno gorweddodd. Rywbryd gefn nos fe'm deffrowyd gan chwyrnad isel yn f'ymyl. Cyfododd Twrc, gwrandawodd ennyd, yna neidiodd i lawr. Ni chlywn i un sŵn yn torri ar ddistawrwydd godidog y nos, dim awel yn siffrwd deilen. A'r sêr uwchben Aeth Twrc oddiamgylch yr ydlan ac i'r buarth. Clywn ei sŵn ambell waith. Yr oedd ef wedi clywed rhywbeth, ond ni chyfarthodd unwaith. Ym mhen rhyw ddeng munud, efallai, clywais ef yn neidio dros y llidiart o'r buarth i'r ydlan. Yna, neidiodd i ben yr hen ddarn tas. Daeth ataf. Llyfodd f'wyneb, cystal â dywedyd bod popeth yn iawn. Yna aeth a gorwedd wrth fy nhraed fel o'r blaen. Cysgodd a breuddwydiodd, canys clywn ef yn ymlid cwningen yn ei gwsg.

Teimlais fy mod wedi mynd yn f'ôl i'm mebyd gyda'm hen gyfeillion—ymhellach na hynny hyd yn oed, yn ôl at fy hynafiaid cyn cof, fy nghi a minnau, dan yr awyr, a'r nos yn garedig, a'r ffyddlonaf o bob creadur yno yn f'ymyl...

Felly y cysgem ein dau agos drwy'r haf gwresog hwnnw. Deffrown yn y bore, yn barod i godi rhag blaen, wedi gorffwyso megis na orffwysais mewn na thŷ na phabell erioed. Glas tyner yr wybren anfeidrol uwch eich pen, a'r sêr dinifer fel pwyntiau bach o aur ynghanol y glas. Dynion a'u rhwysg a'u rhodres, a'r ofn tragywydd sydd arnynt rhag ei gilydd, heb fod yn cyfrif dim pan fyddech felly, yn fodlon ar ba dynged bynnag a ddenfyn y Creawdr i chwi, am eich bod yn gwybod, yn credu ac yn cyfaddef mai "Efô a ŵyr, Efô a ŵyr, Efô." Ac Efô a wnaeth gwn yn gymdeithion i ddynion.