Tudalen:Brithgofion.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.

HEN BENTREF.

SAFAI'R Hen Bentref, canolfan darn prydferth o wlad goediog, ar waelod ac ochrau cwm bychan, yn lledu tua'r môr, ryw chwarter milltir oddiwrth y traeth. Rhedai afon fechan drwy ganol y pentref, a chodai'r tir o bobtu iddi, braidd yn serth ar un ochr, o Lawr y Pentref i Ben y Bryn. Ar yr ochr arall yr oedd y codiad yn fwy graddol, a gerddi bychain yn cyrraedd at Lawr y Pentref. Ni wn i ba nifer o drigolion a allai fod yno pan oeddwn i'n hogyn, dim ond ychydig gannoedd ar y gorau, gweithwyr gan mwyaf, a nifer da o grefftwyr, amryw gryddion a theilwriaid, gof neu ddau, seiri coed a maen, gwniad- wragedd, fel y byddem yn eu galw, a merched yn gweu hosanau. Yr oedd yno dair neu bedair o siopau gweddol helaeth yn gwerthu bwydydd, brethynau, llieiniau a phethau felly, a rhai mân siopau lle byddai'r plant yn prynu cyfleth cartref a melysion eraill, pan ddôi ceiniog o rywle.

Yr enwocaf o'r siopau oedd siop Bryn y Gwynt, a chedwid hi gan ddyn clyfar o brydydd, er nad oedd ganddo ffug enw, hyd yr wyf yn cofio. Ceid yno bethau newydd a hen, a thuedd gyson at fod ar y blaen gyda phethau newyddion—cloch a ganai pan agorech y drws, clorian fel blwch, yn gweithio o'r golwg, tafolau pres arni, a'r pwysau o'r un defnydd, yn gorwedd ar ei gilydd fel pyramid bach, a'r pres yn disgleirio yn yr haul. Pan ddaeth y ddyfais hon yno gyntaf, byddai pobl, na byddent yn delio yn y siop yn gyffredin, yn mynd i mewn ar ryw esgus prynu rhywbeth er mwyn ei gweled. Mewn un ffenestr ceid dangosiad da o ddillad parod o Loegr, a wnâi i chwi feddwl bod yr hogiau druain a'u gwisgai ar y Sul yn edrych fel pe baent ddarpar swyddogion ym myddin Prwsia, yn ôl y lluniau a welem weithiau o'r swyddogion hynny yr adeg honno—cotiau yn cyrraedd at y wasg, band i'w cau'n dynn am y canol, a rhyw ddau fotwm rhwng y band a gwaelod y goler helaeth. Gwnaent i chwi feddwl am gacwn brithion. Byddai llawer gwell golwg ar yr hogiau yn eu gwisg gyffredin bob dydd—clos rhesog yn cyrraedd at y pen glin, a chôt a gwasgod felfed. Yr oedd yno hefyd ddwy neu dair o dafarnau, y