Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brithgofion.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Red Lion " y gelwid un. Enwau Cymraeg oedd ar y lleill, ond yr "Hot-él" ar gwr y pentref, ar gyfer y bobl fwyaf cefnog a'r " petha ha' 'ma," fel y gelwid y dieithriaid oedd eisoes wedi dechrau dyfod yno i "rodio," neu fwrw gwyliau yn yr haf. O Loegr y dôi'r rheiny gan mwyaf, a byddigions" y gelwid hwy gan y rhai fyddai'n ennill ceiniog ar eu cost, er fy mod yn cofio un hen ŵr a fyddai'n gweithio ar fferm fy nhad, yn dywedyd nad boneddigion monynt hwy, ond rhai'n cymryd arnynt eu bod yn perthyn i'r dosbarth hwnnw—iddo ef, nid oedd neb llai nag ysgwier gwlad a fedrai siarad Cymraeg yn ŵr bonheddig. Yr oedd hefyd eglwys blwyf a dau gapel yn y pentref. Cymry oedd y rhan fwyaf o lawer o'r trigolion, a Chymraeg oedd eu hiaith, hyd yn oed os byddai enwau rhai ohonynt yn awgrymu mai dyfodiaid oeddynt. Nid wyf yn cofio odid estron yno heb ddim Cymraeg ganddo, dim ond hen gwpl bach o Indiaid Cochion, meddent hwy eu hunain, a ddaeth ar draws gwlad yno o rywle ac a fu byw yno am ysbaid, o leiaf. Edwin oedd ei enw ef, a byddai rhai pobl yn sôn am y cwpl fel " Edwin ac Angelina." Nid wyf yn sicr nad fy nhad, a fyddai'n hoff iawn o waith Oliver Goldsmith, a fu gyfrifol am hynny. Dôi Sipsiwn heibio hefyd ar dro, a rhoes fy nhad gennad iddynt wersyllu ar ddarn diffaith o gornel cae. Ar ôl deall eu bod yn medru Cymraeg, collais bob ofn rhagddynt, ac awn i'w gwersyll. Yno y cefais ryw syniad am ryddid fel dull o fyw, nid peth i sôn amdano heb gredu nemor ynddo. Ni wyddwn ddim o hanes y bobl ddiddorol hyn ar y pryd, ond dysgais rai geiriau a arferent wrth siarad â'i gilydd, a gofidiais, ym mhen blynyddoedd am ein bod ni wedi ymadael o'r Hen Gartref i ardal na welid ynddi Sipsiwn onid ar ddamwain ar y ffordd fawr a minnau drwy hynny wedi colli'r cyfle i ddysgu Romani. Cwtogai'r brodorion lawer ar eu geiriau, yn enwedig enwau tai a chaeau, megis Pen Trisa (Pentref Isaf), Pen Trucha (Pentref Uchaf), Gwredydd (Gwaun yr Ehedydd), Sdwgan (Maes Cadwgan), a'r cyffelyb. Yr oedd yn eglur mai Pen y Bryn oedd y rhan hynaf o'r Pentref, canys yr oedd yno hen dai bychain, eu parwydydd wedi eu gwyn—galchu a thoau gwellt arnynt. Y tu cefn iddynt byddai gerddi bychain taclus a choed afalau, Eirin Mair a ffrwythau eraill ynddynt. Byddent yn lanwaith iawn.