Tudalen:Brithgofion.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Golchid carreg y drws bob bore, a thra byddai'r garreg eto'n wleb, gwneid math o dres gadwynog gyda'i hymyl â darn o galch, a ddôi'n wyn fel y byddai hithau'n sychu. Gyda'r pared oddi allan ac ar estyll y ffenestri, byddai cerrig gwynion o lan y môr wedi eu gosod. Oddimewn byddai dodrefn da yn gyffredin, gwaith hen grefftwyr yr ardal gynt. Cedwid hwy'n lân iawn, a byddai'r llawr llechi gleision oddi tanynt ac o'u cwmpas wedi ei dduo, neu ei "flacledio" yn loywddu. Cof da am yr hen wragedd bodlon, caredig a fyddai'n trigo yno, ac a rôi afal, pan fyddai'r ffrwyth yn aeddfedu, i'r hogiau, rhag eu gosod mewn temtasiwn ar amser felly.

Y pryd hwnnw hefyd, cedwid moch mewn cutiau. ym mhen draw gerddi o'r fath, a byddai'r arogleuon ar brydiau braidd yn anhyfryd, yn enwedig i rywun yn byw ar fferm neu fwthyn yn y wlad, lle byddai "cae moch yn rhoi mwy o "libart "i'r anifail a'r tomennydd. Ceid dŵr glân o ffynnon ar war y ceunant yn uwch i fyny, a gwelid rhes o ferched yn ei gario bob bore mewn ystenau ar eu pennau, a phleth o liain odditanynt i gadw'r llestri'n wastad. Nid rhyfedd bod y merched hynny'n sythion a chryfion. Ar ddydd Llun gwelech ferched yn golchi dillad yn yr afon, yr ochr uchaf i'r pentref, a'u dodi ar y mân lwyni gyda'i glan i sychu. Byddai gwedd gymdeithasol i'r gorchwyl hwnnw.

Dau ddrwg ar yr afon oedd y byddai gormod o lestri toredig, hen esgidiau a phethau tebyg, a rhy ychydig o ddwfr ynddi ar dywydd poeth yn yr haf, a gormod o ddwfr ar dywydd gwlyb iawn, pan lifai dros ei glannau ac i mewn i'r tai yn ymyl y bont oedd yn cario'r ffordd fawr dros yr afon a'r cwm. Un prynhawn Sadwrn ym mis Awst, pan dorrodd cwmwl, meddid, yn rhywle draw y tu uchaf i'r pentref, boddwyd gwaelod y pentref gan y llif. Daeth y dwfr a choed yn eu corffolaeth i lawr, gan gau bwa'r bont yn y gwaelod, a llyniodd y dwfr yno nes bod y trigolion yn ofni mai torri fyddai hanes y bont, a boddi'r tai oedd yr ochr isaf iddi, rhwng y pentref a'r môr. Daliodd y bont er hynny, ond aeth y llif â pharwydydd tai is i lawr ymaith i'w ganlyn, nes bod lloriau'r llofftydd wedi plygu a gollwng gwelâu a dodrefn i'r dwfr, a hwnnw wedi eu cludo i'r môr, ond ni chollodd neb ei fywyd yn yr helynt honno, hyd yr wyf yn cofio.