Tudalen:Brithgofion.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byddai'r gymysgedd rhwng geiriau'r gerdd a sylwadau'r Baledwr yn ddigrif:—

"Ar la-a-n hen a-a-afon Ddyrdwy ddofn
(ceiniog, diolch),
Eisteddai glân for- (ie, ceiniog, diolch) wynig,
Gan ddistaw si-i-sial (ceiniog, diolch) wrthi'i hun
Gadawyd fi-i-i (ceiniog) yn unig."

Ac felly ymlaen. Diau y byddai tipyn o yfed yn ystod y dydd, a chan y byddai yno bobl o wahanol leoedd oddiallan, codai rhyw hen gynnen ambell waith, a byddai ffrae ac ymladd, a'r sôn i'w glywed drannoeth bod hogiau'r lle a'r lle wedi ei "chael hi nes oeddan nhw'n waed rael," gan hogiau plwyf arall. Ambell waith codai cynnen newydd o'r hen un, a deunydd helynt arall pan ddôi cyfle. Ffynnai hen gampau cryfder, ymaflyd codwm, taflu maen neu drosol am y pellaf, nyddu gwydden, plygu pedol yn eu plith. Gosodid y trosol ar ei hyd ar lawr. Safai'r taflwr yn ei ymyl. Plygai heb blygu gar. Cydiai tua chanol y trosol a'i godi hyd braich a'i ddal uwch ei ben a'i drwyn ymlaen. Yna ysgói ddwywaith neu dair heb symud o'i fan a bwrw'r trosol yn ei flaen nes byddai'n ymblannu yn y ddaear rai llathenni oddiwrtho. At "nyddu gwddan," fel y dywedid, torrid nifer o wŷdd neu wiail, cyn ffyrfed â bawd dyn, yn barod. Cymerai'r nyddwr un ohonynt, dodai ei bôn tan ei droed, yna cydio ynddi â'i ddwy law a'i throi nes ei hysigo ar ei hyd. Wedyn dodai gwlwm arni, bwriai hi ar lawr a cherddai o'r neilltu a'i ben yn yr awyr fel concwerwr, gan rwbio'i ddwylo yn ei gilydd. At blygu pedol cesglid twr o hen bedolau ceffylau, wedi treulio tipyn, a'r gamp fyddai sythu un ohonynt. Os torrai un yn rhwydd, byddai raid ailgynnig ar un arall. Gwelais ambell un a dorrai ddwy neu dair pedol yn ddeudarn ac a orffennai drwy sythu un heb ei thorri. Campau eraill fyddai neidio â phawl a choetio. Hen bedol ceffyl fyddai'r goeten, y rhan amlaf, a gwelais rai a'i bwriai am y nod pren yn y ddaear y naill tro ar ôl y llall heb fethu unwaith. Gallai rhai bechgyn godi dau hanner canpwys, un ymhob llaw, oddiar y ddaear heb blygu gar, eu codi a'u dal allan o hyd braich, eu siglo'n ôl a blaen a'u bwrw gyda'i gilydd