gryn bellter ymlaen. Byddai sôn am ambell un wedi ysigo'i gefn wrth godi pwysau am y trymaf, neu godi dau hobed o wenith mewn-sach oddiar lawr ar ei ysgwydd a'i gario i fyny'r grisiau. Yr oedd y campau hyn yn ddiau yn hen rai. Ni byddai cicio'r bêi droed ond chwarae mwy neu lai wrth ddamwain a heb reol bendant, ymhlith hogiau, hyd yr wyf yn cofio.
Byddai gweithwyr yn fedrus iawn â'u dwylo. Heb erfyn onid cyllell boced a thwca cam, gwnaent flychau. tybaco o gyrn gwartheg iddynt eu hunain a gwadnau clocsiau o goed gwern i'w plant at y gaeaf, a byddai gwneud ffyn, llwyau pren, basgedi a chewyll yn ddifyrrwch cyffredin gan lawer ar hirnos gaeaf. Byddai dull gwneud y cawell yn gywrain. Cesglid yr ais a'r gwiail yn barod, yr ais o bren cyll yn gyffredin, a'r gwiail plethu o helyg neu fedw. Pan wneid cawell yn y tŷ, byddai raid cael astell go gref o goedyn a thyllau drwyddi, yn gylch crwn. ar y canol, neu'n ddwy res union gyda'r ymyl a'r ddau dalcen yn grwm, yn ôl ffurf y cawell a ddewisid. Gosodid yr ais yn y tyllau a phlethu'r gwiail rhyngddynt, oddiwrth yr astell i fyny. Pan gyrhaeddid y dyfnder a fynnid, plygid yr ais i mewn at ei gilydd i wneud gwaelod y cawell. Weithiau, er mwyn addurn, cymysgid y gwiail, llain o helyg a bedw bob yn ail. Ar ôl gorffen y cawell, tynnid ef oddiar yr astell, a phlethu gwiail tipyn ffyrfach am yr ymyl a naddu a phlygu blaenau'r ais i lawr rhwng y lleill am y bleth ymyl i'w chadw hithau yn ei lle a chwplau'r llestr. Weithiau, gwneid y cawell yn yr awyr agored, heb un astell, drwy wthio'r ais i'r ddaear. Át ddodi pethau ynddynt i'w cario ar gefn mul, un o bobtu, y gwneid y cewyll hyn y rhan amlaf. Gwneid basgedi bychain crynion o wiail bedw, at ddal pethau yn y tŷ, megis wyau ieir, afalau neu edafedd a thaclau gwnio neu weu. Caledai rhisglyn y gwiail bedw, a byddai lliw gloywgoch teg ar y basgedi bychain hynny pan fyddent wedi sychu. Gwneid basgedi neges a dolen iddynt hefyd o wiail bedw.
Wrth sôn am fedw, daw i'm cof y dôi ambell hen ŵr heibio ar dro i werthu gwialennau bedw at gadw trefn ar blant yn y dyddiau hynny. Odid dŷ na welid ynddo wialen fedw yn crogi wrth hoel uwch ben y lle tân, a byddai hen gân a elwid "Gwialen fedw fy mam" i'w