Tudalen:Brithgofion.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gymdogion. Er mai caled oedd byd y gweithwyr hyn, yr oeddynt fel dosbarth yn iach a chryfion, a magent deuluoedd lluosog o fechgyn a merched fel hwythau, drwy ddiwydrwydd a chynildeb. Byddent, fel dosbarth, yn ddigrif a bodlon, ac yn byw'n hŷn, mi gredaf, na'r crefftwyr a'r "creigwyr" fyddai'n gweithio mewn chwarel gyfagos, ac a fyddai'n heneiddio a musgrellu'n gynnar. Y cryd cymalau fyddai'n poeni mwyaf ar y gweithwyr tir, pan aent i dipyn o oed. Byddai bron bob gweithiwr yn perthyn i Glwb Cleifion a Chlwb Claddu, ond ni chymerent yn garedig at y cwmnïau "Siwrio Bywyd," yn enwedig bywydau plant. Cofiaf ddyn fyddai'n mynd o gwmpas dros un o'r cwmnïau hynny. "Yr Hen Siwrin " y byddai pawb yn ei alw. Un taer ydoedd, mae'n debyg, wedi dysgu llawer o ddiarhebion at wasanaethu fel cynghorion bobl ddiddarbod. Byddai'n ceisio dangos i bobl gymaint o fantais iddynt fyddai insiwrio'u plant a chael tipyn o arian petasai ddigwydd i rai ohonynt feirw.

"Yr hen dderyn corff ganddo," meddai mam hanner dwsin o blant wrth fy mam un tro. "'Does dim llonydd i'w gael ganddo, eisia na fasan ni'n siwrio'r plant, yn enwedig Dafydd bach, yr unig un gwanllyd o'r chwech. Fel tasa ryw fam yn mynd i siwrio bywyd un bach cwla fel yfô, gan ddisgwyl y bydda fo farw cyn hir! Fasa waeth gen i siwrio un o'r lleill na pheidio-fydd byth ddim o'i le arnyn nhw. Ond Dafydd bach druan, byth a beunydd yn cwyno-ond fasa'r peth 'r un ffunud â phe tae arnoch chi eisia'i gladdu o er mwyn cael tipyn o arian? Na, meistras, mi ddeudis wrth y llymgi am gymryd gofal na ddengys o mo'i hen big deryn corff yn y tŷ acw byth eto! A wyddoch chi be ddeudodd y blerwm? Wel,' medda fo, arnoch chi y bydd y bai os digwyddith rhywbeth iddo fo.' Ia'n wir i chi!"

Yr wyf wedi sylweddoli erbyn hyn mai plant a hen bobl fydd pennaf ceidwaid hen draddodiadau ac arferion mewn cymdeithas, a bod yn y naill dosbarth a'r llall lawer o "gymeriadau," fel y byddwn yn dywedyd. Yn neupen oes clywech ystraeon a gwelech arferion fyddai'n llawer prinnach ymhlith y canol oed. Soniwyd eisoes am y campau cryfder ymhlith y llanciau. Yn rhyfedd ddigon, ni cheid cymaint o hen chwaraeon Cymreig ym mysg y plant. Enwau Saesneg wedi eu Cymreigio fyddai