Tudalen:Brithgofion.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar lawer ohonynt, megis trymbol, trabol weithiau, gan blant o'r tu allan, o'r Saesneg throwball, ond odid; chwipio top, chwarae marbles; enwau ar wahanol fathau o'r marblis, megis to, un fawr at daro o bell; ali, un lai, at "figyrnu" rhwng ewin bawd a chymal bys. Ceid ali wen, ali goch ac ali wydr, gwythiennau cochion drwy'r gwyn yn yr ali goch, ac amryw liwiau'n bleth megis y tu mewn i'r un wydr. Byddai gwerth cyfnewid ar y marblis hyn, ali goch, er enghraifft, yn werth pedair marblen blaen. Coblo y gelwid chwarae â chnau cyffylog, neu hyd yn oed gnau cyll weithiau, twll drwy ganol y gneuen a charrai neu linyn drwyddo, dal a tharo bob yn ail, a'r gamp fyddai torri o'r naill hogyn gneuen neu goblar y llall. Crasem y cnau cyffylog yn araf i'w caledu, a daliai ambell un i guro drwy'r tymor. Bu gennyf un wedi torri yn ei hanner, ond bu'n ddigon caled i barhau dau dymor. Gallaf ei gweled, megis o flaen fy llygaid hyd heddiw. Pan fyddem wrthi "o ddifrif," nid "o fregedd," enillodd honno lawer o bethau i mi.

Byddai'r chwaraeon yn newid i ganlyn y tymor, neidio (naid hir, naid uchel, naid stond, sef o'ch sefyll), hwb-cam-a-naid (neid, yn wir, a ddywedem ni, nid naid); chwarae mochyn coed (leap frog), y rhai hyn oll ac eraill yn y gaeaf, pan fyddai'r tywydd yn oer. At y gwanwyn, pan sychai'r ffyrdd, chwipio top, chwarae marblis; yn yr haf, taflu pêl i gap, mwgwd dall, mig ymguddio, cisin ring (felly y seinid, ond clywid yr enw "dal-a-chusan " hefyd yn y wlad), hyn yn enwedig ym mis Mai, darn o hen chwarae, ond odid; cic-ston (cicio carreg o sgwâr i sgwâr heb gyffwrdd llinell, chwarae merched yn bennaf; sgipio (genethod), dawnsio (cymysg) symud a chroesi tan freichiau, darn syml o ryw hen ddawns, mi gredaf.