Tudalen:Brithgofion.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chaed y cŵn yno, Pero II yn un ohonynt, llygotwr enwog oedd o. Jac Bryn Coch oedd ar ben y mwdwl yn taflu'r ysgubau ar ben y dyrnwr. Tynnodd y to yn hamddenol, a gwelodd fod "ffliw" drwy ganol y mwdwl, wedi ei gwneud wrth gario'r ŷd drwy osod batingen ar ei phen yn y gwaelod a'i thynnu i fyny o hacen i haen wrth fydylu, hyd i'r brig, at sychu'r mwdwl pan fyddai'r tywydd braidd yn wlyb adeg cynhaeafa.

"Diawch!" meddai Jac, "bu agos i mi fynd i lawr, fel Wil Eirias yn y Nant Isa ers talwm. Lle ofnadwy am lygod ffreinig oedd y Nant hefyd yr amser hwnnw. Wil oedd ar ben y cocyn yn tynnu'r to. Dyma'r cŵn yn dechra ymladd yn y buarth, a phawb yn rhedag i edrych beth oedd yr helynt. Dim byd, fel arfer. Wedi tawelu'r cŵn, ffwrdd â ni i ddechra dyrnu. 'Doedd Wil Eirias ddim yno, a gyrrwyd finna yn'i le, gan feddwl na fydda Wil ddim yn hir hefo'r peth oedd ar droed ganddo. Yno y bûm i, beth bynnag, a phawb ohonom yn methu â dallt beth oedd wedi digwydd i Wil. Wela'r oeddan ni'n tynnu at waelod y cocyn, a helynt y llygod ffreinig yn dechra mynd yn wyllt. Y cŵn yn cyfarth, dynion yn gweiddi, ac fel y mae'n ddrwg genni ddeud, yn gorfod rhegi'r hogiau bach-'roedd yno lond tý ohonyn nhw yn y Nant yr adeg honno, i gyd yn fân, cwta flwyddyn rhwng pob un-am eu bod nhw yn digwydd bod ar y ffordd bob cynnig pan fyddai llygoden ar ddiengyd. Wela, dyma fi'n codi'r ysgub ola oddiar stôl y mwdwl, ac ar fy llw, 'doedd yno ddim ond het a sgidia, a chyllall boced Wil Eirias druan. Mi gafodd y rheiny gladdedigaeth barchus iawn, ond y gyllall. Ac mi fedrodd pawb ohonom. gerddad adra'n sythion a didramgwydd ar y diwadd, y tro hwnnw. Fi gafodd'i gyllall bocad o, fel'i hen gyfaill o, gan y weddw drallodus. Dyma hi. Mae blynyddoedd. maith er hynny bellach. Mi fu raid i mi gael dau lafn newydd iddi hi ac un carn, ond hen gyllall iawn ydi hen gyllall Wil Eirias eto."

Yr oedd dawn y cyfarwydd gan Jac Bryn Coch, os bu gan rywun erioed. Sychodd ei lygaid yn llawes ei grys wrth gofio ci hen gyfaill, ac ocheneidiodd yn drwm. Byddai "cymortha" hefyd amser aredig, yn yr hydref at wenith gaeaf ac yn y gwanwyn at geirch a haidd, neu farlys. Pan ddigwyddai ryw anffawd.