Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brithgofion.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blynyddoedd. Cof gennyf am un gŵr bach go ffrom, a gredai mai ei fraint ef oedd gwneud y das wellt ym mhob dyrnu ar hyd y tymor. "Corbad" y gelwid ef, am mai dyna'i air mawr am bawb na wnâi bopeth fel y byddai ef yn peri. Cnôi dybaco cryf, a'i geg fel pe buasai wedi ei gwneud o bwrpas i ddywedyd "Corbad" rhwng ei ddannedd megis, yr un gair yn yr iaith a gynhwysai holl ddirmyg y gŵr cyfarwydd at bob creadur anfedrus neu dafodrydd. Un tro yr oedd "Corbad" yn cau pen tas wellt haidd yn fy nghartref, a phentwr o gôl haidd ar un ochr iddi. Pan oedd " Corbad" wrthi yn ei gwman yn gosod y wanaf wellt gwenith ar ben y das, dyma'r rhaffwr, dyn bach digrif, llawen, a barf gringoch o liw blew llwynog ar ei gernau a'i ên, dyn a ddywedai rywbeth hollol ddiniwed, gan wneud llygad bach a throi cornel ei geg i lawr-dyma hwnnw yn taflu rhaff wedi ei dirwyn yn gron fel "cabetsen," i fyny i ben y das gan weiddi yn gwbl ddiniwed ei dôn "Rhaff, Joseph Ellis." Yr oedd y rhaffwr hefyd yn anelwr tan gamp, a dyma'r rhaff yn taro "Corbad" ar fôn ei gluniau ac yntau'n diflannu ar ei ben i lawr i'r pentwr côl haidd yr ochr arall i'r das, fel nad oedd olwg amdano pan redodd eraill i edrych pa beth a ddaethai ohono. Pan gafwyd ef allan, yr oedd golwg fel draenog arno, yn gôl haidd o'i ben i'w draed. Joseph Ellis!" meddai'r rhaffwr, gan droi llygad bach at y lleill a chamu ei geg, "ddyn glân, mae'n ddrwg genni—'d oeddwn i'n gweld monoch chi yn ych cwman fel ceiliog ar ben y das!" "Corbad!" meddai Corbad, gan boeri saeth o sudd tybaco a chôl haidd o'i safn ac edrych fel mellt a tharanau. Chwarae teg iddo hefyd, dringodd yn ei ôl i ben y das a gorffennodd osod y wanaf, ond yr oedd yn ysgrwtian ac ymgrafu, a bu raid iddo fynd adref cyn nos am na fedrai oddef pigiadau'r côl haidd ddim yn hwy.

Byddai rhyw gast o'r fath bron yn sicr o ddigwydd ym mhob man ddiwrnod dyrnu, a Jac Bryn Coch, pen chwedleuwr yr ardal, wrthi rhwng y castiau yn chwedleua ar ei orau. Un tro, yr oedd pla o lygod mawr yn y mydylau ŷd, a phawb yn barod ar gyfer yr helfa pan ddechreuent ddianc allan o ddifrif fel byddai'r mwdwl yn tynnu tua'r gwaelod. Gosodwyd sachau gyda gwrych yr ydlan i'w cadw rhag dianc a'u bywyd ganddynt, a