Tudalen:Brithgofion.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dannedd at y ddaear i redeg tan y gwair, a dymchwel y gribin gan adael baich y dannedd blaen yn rhenc a bwrw'r dannedd ôl ymlaen i gasglu baich arall. Yr oedd hyn yn welliant mawr. Dyfais o'r Amerig oedd hon, a thynnodd sylw mawr pan ddaeth un gyntaf i'r ardal. Yna daeth chwalwr i'w dynnu gan geffyl, dannedd of haearn iddo, yn troi ar echel ac yn chwalu'r gwaneifiau. "Cythraul" y gelwid y peiriant hwnnw mewn rhai ardaloedd, gan mor beryglus oedd yr olwg ar ei ddannedd heyrn wrth droi'n chwyrn ar ei echel. Yn ddiweddarach, daeth y gribin geffyl â dannedd crwm at rencio, a lle i'r gyrrwr eistedd arni, gyrru'r ceffyl a gollwng y gwair yn rhenciau pan fyddai gan y dannedd ddigon o faich.

Yn y cynhaeaf ŷd, medel a fyddai'n torri'r gwenith â chrymanau, ambell wraig yn y fedel yn ysbaena'r gwenith, sef ei dorri â chrymanau taro, gwaith caled iawn, er nad cyn galeted â'r "dyrn-fedi" a'r sicl, cryman lled geg-gaead, blaen-fain, a dannedd mân ar du'r min arno, cryman tynnu, at dorri'r ŷd yn ddyrneidiau. Gwaith tâl fyddai'r medi, wrth gwrs, ond dôi'r merched i rwymo'r ysgubau weithiau a'r plant bob amser i loffa. Syn fyddai gan y bobl yr wyf yn sôn amdanynt pe gwelent y peiriannau heddiw yn medi ac yn rhwymo'r ysgubau. Ysgafnhawyd a rhwyddhawyd llawer ar y gwaith drwy'r dyfeisiau hyn ac eraill, ond aeth nifer y dwylo a fyddai'n rhaid gynt yn llai, a chollwyd yr hen gydweithrediad a'r wedd gymdeithasol a fyddai arno unwaith.

Ar ddiwrnod dyrnu, byddai cydweithrediad rhwng ffermwyr. Byddai raid cael mwy o ddynion at y gorchwyl y pryd hwnnw nag erbyn hyn, dyn i gario dŵr i'r "injian," un arall i borthi'r dyrnwr, y ddau hyn wrth eu swydd yn "canlyn yr injian," yna dynion i fatingo a rhwymo'r gwellt, taswr a rhai i godi'r bating i'r das. Dynion i gario'r grawn i'r llofft ŷd, neu'r " granar," a mân swyddi eraill, megis cario manus a gwneud rhaffau i'w dodi dros y teisi gwellt. Byddai'r cinio dyrnu hefyd. yn achlysur tipyn o gystadleuaeth ymhlith y merched, a help i'w gael er hynny o ffermydd eraill neu gan wragedd a merched gweithwyr. Digwyddai llawer o ddifyrrwch a digrifwch yn ystod y dydd, canys byddai'r gymdeithas honno'n hoff dros ben o ryw fân gastiau diniwed, ac adrodd ystraeon am y dyrnu yma ac acw, yng nghwrs