Tudalen:Brithgofion.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.

O DDYDD I DDYDD.

SYML iawn fyddai bywyd y bobl hyn, mewn gwlad a phentref, o ddydd i ddydd, o dymor i dymor. Pobl yn byw ar drin y tir yn bennaf, wrth gwrs, crefftwyr ac eraill yn darparu rheidiau bywyd mewn cymdeithas seml ddigon. Byddai rhai dyddiau pwysicach na'i gilydd, ac ar y dyddiau hynny byddai pawb yn nes at ei gilydd, megis, yn cydnabod rhaid yr hil, ewyllys da a chydweithrediad. Plannu tatws, cneifio defaid, y cynhaeaf gwair ac ŷd, dyddiau aredig a hau, diwrnod dyrnu—byddai cyd—weithio a chytundeb anhepgor bywyd dynoliaeth i'w cael ar y dyddiau hyn. Iddynt hwy hefyd y perthynai'r dyddiau gŵyl a diwrnod cerdded y Clwb. Rhoddai'r ffermwyr, gan mwyaf, fel y crybwyllwyd eisoes, dir at blannu tatws i'w gweithwyr heb gydnabyddiaeth ond y tail oddiwrth gadw mochyn. Ni chodid tâl ychwaith am drin y tir nac am agor a chau'r rhesi â'r aradr. Dôi'r gwragedd a'r plant i osod y tatws yn y rhesi. Cydnabyddid hyn fel dyletswydd, ac ar amser codi tatws rhoddai'r gweithwyr a'u gwragedd a'u plant help i'r amaethwr fel dyletswydd. Amser cneifio defaid, byddai hefyd gydweithio rhwng yr amaethwyr a'i gilydd, dôi ambell wraig i gneifio a'r plant i ddal traed y defaid. Caent gnuf o wlân am y dydd yn gydnabyddiaeth, ac ymborth. Yr un modd yn y cynhaeaf gwair. Byddai hwnnw yn fy nghof cyntaf i yn waith llawer mwy trafferthus nag yw bellach. Lladd gwair â phladuriau. Y peth nesaf fyddai troi'r gwaneifiau â chribin law ar ôl iddynt gynhaeafu ar un tu, yna eu chwalu â'r bicfforch. Wedi hynny rhancio'r gwair a'i gribinio'n lân â'r gribin law, a phicfforch pan âi'n rhy drwm i'r gribin, a'i fydylu yn barod i'w gario. Gwelais wragedd a babanodd sugno ganddynt —wrthi gyda'r gwair ac yn dodi'r bychain i gysgu ar fôn mwdwl, dan ofal plant hŷn, a'r mamau'n mynd yn awr ac eilwaith i roi sugn i'r rhai bach. Daeth y gribin geffyl cyn hir, cribin â lled da ynddi, a dannedd hirion ar bob tu i echel, cribin i'w llusgo ar ei gwastad, a darn o goedyn fel hanner cylch ar ddeupen yr echel i'r gribin lithro arnynt. Dwy hegl o'r tu ôl fel y gellid gostwng blaen y