Tudalen:Brithgofion.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

penbleth. Un tro, dywedodd hogyn adnod ag enw Pilat ynddi. 'Ie," meddai'r pregethwr, "beth oedd Pilat?" Meddyliodd yr hogyn am eiliad, yna atebodd yn hyderus: "Dyn mewn siaced beilat cloth a botyma melyn." "Wel, efallai wir!" meddai'r holwr. Galwodd am adnod y nesaf ac ni holodd ragor. Byddem yn y dyddiau hynny yn canu tonau o "Sŵn y Jiwbili," casgliad bychan of Ganeuon Sanci-Mwdi," fel y galwai'r plant hwy, yn wir, aeth "Sanci-Mwdi" yn derm am ryw fath o ganu hwyliog heb ryw lawer o "ddyfn" ynddo. Y tro cyntaf yr aethom i ddysgu cân fach a'r byrdwn yn dechrau â'r llinell "Deliwch afael, medd yr Iesu," gofynnodd un hogyn bach i'r arweinydd, "Fydda Fo'n tawlu afal iddyn nhw?" Ond dyna ddigon o gip ar rai o anawsterau hogiau bach, gynt.

Nid oedd weinidog i'r eglwys yr adeg honno, a'r blaenoriaid, bob un yn ei dro, fyddai'n" cadw Seiat" ac yn arwain y cyfarfodydd gweddi. "Gwrando profiadau" y gelwid gwaith pennaf y Seiat. Ar dro yn yr haf yr awn i yno, ac nid oeddwn ond ifanc pan adawsom yr ardal, ond cofiaf y byddai'r plant yn dywedyd adnodau ar y dechrau, testunau'r pregethau a gafwyd y Sul cynt yn gyffredin, a rhai o'r plant hynaf wedi codi "pennau 'r" bregeth. Yna, âi blaenor i ofyn am rywbeth a allai fod ar feddyliau'r bobl mewn oed. Hen bobl fyddai barotaf i ateb. Byddai'r ymddiddan y tu hwnt i'n dirnadaeth ni'r plant, wrth gwrs. Eto, byddai ambell un o'r hen bobl weithiau'n dywedyd peth a lynai ym meddwl hogyn na byddai ganddo ddim i'w wneud ond breuddwydio'n effro bob yn ail â gwrando. Cefais yr argraff droeon fod rhywbeth arbennig yn perthyn i'r hen bobl hynny. Ag edrych yn ôl ar y cyfnod bellach, yr oedd ynddo yn ddiau fywyd fel pe buasai'n perthyn i fyd nad yw mwy, bywyd pobl fach syml, oedd yn eu holi eu hunain yn fanwl a pharhaus, bywyd oedd yn ddisgyblaeth gyson, yn peri i ddyn feddwl am yr oesau y bydd llenorion Ffrengig yn sôn amdanynt, gyda rhyw hiraeth hanner trist ar eu holau, ac yn eu galw yn oesau ffydd," amseroedd wedi mynd am byth, o fyd mor wallgof â hwn... Dafydd Abwt, hen ŵr bach diniwed, y byddai'r hogiau yn ei wylltio, nid yn gymaint er mwyn ei glywed yn rhegi ag er mwyn ei glywed yn edifarhau yn y fan, gan ddywedyd