Tudalen:Brithgofion.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tan ei lais, "Duw faddeuo i mi ddeud y fath beth hefyd, hogia bach!" A byddai hyd yn oed yr " hogia bach, ar ôl eu cyfarch mor dirion, rywsut yn colli eu direidi yn sydyn... "Pe byddent ynfydion ni chyfeiliornant." Oedd ryw ffael ar ddyddiau'r ffydd, o'u cymharu â dyddiau'r "ffaith" a'r "gwrando i mewn," f'arglwyddi?

At y pethau hyn, byddai'r cyfarfodydd canu, y cyfarfodydd darllen a'r cyfarfodydd cystadleuol yn agor rhai ffenestri rhyngom a'r byd, heb beri i mi deimlo mai gwaith ysgol oedd peri i ni golli'n hanibyniaeth a chredu na wnaeth ein pobl ni ein hunain erioed ddim gwerth sôn amdano mewn lle felly. Dynion bach cyffredin oedd ein hathrawon, y mae'n ddigon tebyg, a'u gwybodaeth yn o gyfyng, fel eiddo pawb ohonom, efallai. Credent mewn sol-ffa a llaw fer a phethau rhesymol a hwylus felly. Dysgodd un ohonynt ynghanol ei oed gyfaddasiad R. H. Morgan o law-fer Pitman yn "Nhrysorfa'r Plant" —gormod o dasg i mi tua'r un adeg. Dadleuent â'i gilydd ar a oedd yr enaid yn anfarwol ai peidio, neu a fyddai'n mudo o gorff i gorff pan fyddai un corff farw, neu ai mwnci oedd tad y dyn, a phethau tebyg. Caent fwynhad o'u bywyd, wrth ddysgu plant, am ddim.