Tudalen:Brithgofion.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII.

PRYDYDDION.

BYDDAI traddodiad llenyddol yn yr ardal, yn mynd yn ôl rai canrifoedd, fel y deuthum i wybod wedyn. Clywid ystraeon am rai prydyddion gynt, a adroddid yn yr ardal o hyd. Yr oedd un ohonynt, a elwid Owen, yn mynd ar hyd y ffordd un diwrnod, a gwelai brydydd arall wrthi'n chwŷs mawr yn medi haidd. Dringodd Owen i ben y clawdd a gwaeddodd:—

"Siôn Parri'i hun sy'n pori haidd."

Ac heb godi ei ben atebodd y llall:—

"Tyrd tithau yma, Owen gry'
I dynnu o'r gwraidd."

Yr oedd chwaer i Siôn Parri a natur prydyddu ynddi. Un tro yr oeddis wrthi'n corlannu defaid a'r prydydd yn lled ddiamcan gyda'r gwaith, fel y tybiai'r chwaer. Meddai hi:—

"Sa 'n nes, Siôn ni,
Yn y boncan, yr hen benci!"

Dro arall aeth y prydydd i edrych am ei chwaer i'w thŷ hi ei hun. Aeth hithau ag ef i'r parlwr, lle'r oedd tân, yn gystal ag yn y gegin. Meddai'r prydydd:—

O, dau dân sy'n dy dŷ di."

Meddai hithau yn y fan:—

"Un yn ddigon i ddau ddiogi."

Yr oedd Siôn Parri, yn wir, yn brydydd medrus dros ben yn ei ddydd (tua dechrau'r ganrif ddiwethaf), fel y dengys ei "Fyfyrdod mewn Mynwent," a gyhoeddwyd yn Nhrefriw yn 1814.

Clywais lawer o sôn gan fy nhad o dro i dro am brydydd gwlad a elwid Ifan Hobwrn, oddiwrth enw ei gartref, mi gredaf. Gwnâi gerddi digrif ar ryw droeon trwstan a ddigwyddai yn yr ardal nesaf, lle'r oedd fy nhad yn byw'r pryd hynny a'r prydydd yn ei wasanaeth. Byddai ar bobl ofn Ifan oblegid ei gerddi, fel y digwyddai gynt. Ryw dro, dygwyd ysbawd dafad o gerbyd rhyw gigydd. Yr oeddis yn amau pwy aeth â'r ysbawd, er nad oedd digon o sicrwydd i roi cyfraith arno chwaith. Cyn