Tudalen:Brithgofion.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ambell un yn cymryd fferm "wrth ben" un arall, pan fyddai hwnnw wedi rhoi rhybudd i ymadael am fod y rhent yn rhy uchel, neu am na châi drwsio tŷ neu feudy gan y meistr tir fel y gellid byw'n weddol gysurus neu gadw anifeiliaid ynddynt. Eto, byddai cydwybod y ffermwyr fel dosbarth yn erbyn y gŵr a gymerai dir tros ben un arall. Pan ddigwyddai hynny, byddai'r sawl a'i gwnâi yn un nad ymwnâi'r cymdogion nemor ddim ag ef am flynyddoedd.

Cof gennyf am ystori fyddai gan fy nhaid am reibiwr felly yn ei ieuenctid ef. Fferm go helaeth ganddo, ac ni chollai gyfle i gydio maes wrth faes. "Hen gribin " oedd ei wraig hefyd, y ddau wedi priodi dipyn ymlaen ar eu hoes, ac heb ddim plant. Bu hi farw gan ei adael ei hun. Tyddynnwr bychan oedd ei gymydog nesaf a chanddo ferch a honno'n gwasanaethu yn y gymdogaeth, merch ieuengach na'r ffermwr, un gref o gorff, a golygus. Cyn hir, aeth y ferch honno i gadw ei dŷ. Bu hi yno'n gwasanaethu am rai blynyddoedd ac yr oedd hi'n gynnil a gofalus. Yr oedd sôn ar led yn yr ardal na byddai hi'n cael cyflog sefydlog ganddo, ond gadael faint bynnag fyddai'n ddyledus iddi yn ei law ef, i ddodwy, fel y dywedid, yn ei wasanaeth ef, yn y dybiaeth y byddai hi yn y man yn wraig y tŷ. Go ansicr fyddai amgylchiadau ei thad, a rhoi'r gŵr cefnog fenthyg arian iddo pan fyddai rhent yn ddyledus ag yntau heb ddigon ar gyfer y galw. Felly yr aeth pethau ymlaen am ysbaid. O'r diwedd aeth pethau o ddrwg i waeth ar y tyddynnwr bach. Ni allai na thalu ei rent na thalu ei ddyled i'w gymydog cefnog. Pan soniai hi wrth ei meistr am helynt ei thad, dywedai'r meistr wrthi am beidio â phoeni, y byddai popeth yn iawn yn y man. Credai hithau hynny, a gadawai ei chyflog heb ei godi. O'r diwedd, daeth y sôn fod y tyddynnwr wedi cael rhybudd i ymadael o'i dyddyn, am ei fod ymhell ar ôl gyda'i rent, a bod ei gymydog wedi cymryd ei dir tros ei ben. Clywodd y ferch y sôn o'r diwedd. Aeth adref a chafodd wybod gan ei thad mai felly yr oedd. Collodd ei thymer. Aeth yn ei hôl. Dywedodd ei meddwl wrth ei meistr, a hawliodd ei chyflog. Edliwiodd yntau iddi na ofynnodd ef erioed iddi adael ei chyflog yn ei law ef, a'i bod hi yn disgwyl y buasai ef yn ei phriodi, a mwy na hynny, ei fod ef wedi