Tudalen:Brithgofion.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoi'n fenthyg i'w thad eisoes fwy na'r cyflog oedd yn ddyledus iddi hi ar hyd y blynyddoedd. Os nad oedd hi'n fodlon ar bethau fel yr oeddynt, mai gwell iddi oedd. Aeth gwaed y ymadael o'i wasanaeth ef pan fynnai ferch i'w phen. Cydiodd yn y ffermwr, cododd ef yn ei breichiau, cariodd ef at ymyl craig ar gwr isaf y buarth a bwriodd ef drosodd nes oedd yn rholio i waelod llain. o dir ochrog oedd yno. Aeth i'r tŷ, paciodd hynny o ddillad oedd ganddi ac aeth ymaith heb gymaint ag edrych ar ei hôl. Pan gaed hyd i'r ffermwr yn y gwaelod ar ei hyd ar lawr, yr oedd wedi torri ei ddwy fraich. Gwerthwyd eiddo'r tyddynnwr ac aeth ef a'i ferch o'r ardal. Ni bu sôn am roi cyfraith arni hi am a wnaeth. Aeth y tyddyn i feddiant y gŵr cefnog. Ond o'r diwrnod allan, aeth pethau yn ei erbyn. Pan fu farw ymhen rhai blynyddoedd, nid oedd ond gwerth ei stoc ar ei ôl, "wedi'r holl gribinio," chwedl fy nhaid, "wedi colli parch pawb."

Er eu bod yn gweithio'n galed iawn, gwŷr hamddenol fyddai'r ffermwyr, yn enwedig ddiwrnod ffair neu farchnad. Cymerent ddarn diwrnod cyfan i werthu buwch yn y ffair. Dôi porthmyn trwsiadus o'r gororau i'r ffeiriau'r pryd hwnnw, yn gwisgo dillad brethyn, côt weddol laes a throad go bŵl ar ei godre y tu blaen, pocedi go helaeth o bobtu, esgus pocedi yn y gynffon a dau fotwm uwch ben; llodryn yn culhau at i lawr nes mynd yn weddol dyn o'r pen glin at y meilwng, esgidiau wedi eu duo'n loyw. Ffon ysgafn yn y llaw, hetiau ffelt, rywbeth rhwng het sidan a het gron, honno weithiau'n llwyd wen, am y pen. Byddent yn medru tipyn o Gymraeg mwy neu lai chwithig, digon i brynu anifail, a chael tipyn o hwyl ar fargeinio. Dôi un ohonynt at fuwch ac edrych arni a'i theimlo, gan roi naid fedrus o'r neilltu pan fyddai raid iddi hithau wneud rhyw wasanaeth naturiol drosti ei hun.

"'M, chi pia'r hen fodryb?" meddai'r porthmon.

"Ia," meddai'r ffermwr gwledig, yn ddigon sobr, pan ddigwyddai fod yn ffraeth, "'r own i'n meddwl ych bod chi'n edrach yn o debyg i fab iddi."

"Diaw' " atebai'r porthmon, "rhaid 'i bod hi wedi bod yn byw'n o fain ers pymtheg blwyddyn, pan welis i hi o'r blaen! Faint amdani hi heddiw?

"Hyn a hyn," meddai'r ffermwr, "mae gwell cas