Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ent bron yr un Cymraeg drwy Gymru, anrhydeddid athrylith yn ogystal a grym. Gwelir nod uchaf eu gwareiddiad yn rhyddiaith y Mabinogion ac yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym. Cedwir Brut y Tywysogion mewn cyfrol o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Coch Hergest, eiddo Coleg yr lesu, yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen. Cyhoeddwyd ef yn 1860 gan y Master of the Rolls, dan olygiaeth Ab Ithel çyda dyfyniadau o lawysgrifau ereill,—dwy lawysgrif yr Hengwrt, llawysgrif Cotton a Llyfr Basing. Yn 1890 cyhoeddwyd ef drachefn, dan olygiaeth fwy manwl ac ysgolheigaidd Syr John Rhys a Dr. J. Gwenogfryn Evans. At yr argraffiad diweddaf yr a'r hanesydd a'r ysgolor.

A dyma argraffiad bychan newydd ar gyfer y llenor a'r werin, fel y gallo'r anysgedig ddarllen croniclau hynaf ei wlad. Newidiwyd ychydig ar yr iaith, er hynny nid cymaint ag a newidir ar lyfr Saesneg o'r un oed i'w wneud yn ddealladwy. Gadawyd ychydig hen eiriau da sydd erbyn hyn wedi cilio o Gymraeg ein dyddiau ni; ond esbonnir hwy ar ddiwedd yr ail gyfrol.

Cymer y gyfrol hon ni at yr Arglwydd Rhys, pan yn dywysog ieuanc yn dinistrio cestyll y Normaniaid, a'i haul ar godi. Yn y gyfrol nesaf[1] cawn weled tywysog Cymreig y canol oesoedd yn ei rym a'i urddas mwyaf yn Llywelyn Fawr. Yna gwelir achosion cwymp y tywysogion a chlirio lle i fywyd y werin rydd ddadblygu.


OWEN EDWARDS.