Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


BRUT Y TYWYSOGION.




I.

Colli Teyrnas y Brytaniaid.

[i. Yr Eing! a'r Saeson oedd wedi goresgyn gwastadeddau Britannia yn ymosod ar fynyddoedd ei gorllewin. Offa rhwng Hafren a Gwy. ii. Y cenhedloedd duon yn ymosod o ochr y môr; marw Rhodri Mawr a Hywel Dda. iii. Diffyg undeb; ymdrech Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llewelyn. iv. Y Normaniaid yn dod.]

 EDWAR ugain mlynedd a whechant oedd oed Crist pan fu y farwolaeth fawr drwy holl ynys Prydain. Ac o ddechreu byd hyd yna ydoedd blwydd yn eisieu o bedwar ugain mlynedd ac wyth cant a phum mil. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Cadwaladr Fendigaid, fab Cad-