v.
Gwynedd a Phowys.
[Ymladd am Ddyffryn Clwyd. Colli'r Llong Wen. Ymgyrch Harri II. i Bowys. Ymladd am Feirionnydd. Terfysg a marw heddychwr.]
1114. Bu farw Gilbert fab Ricert. A Henri frenin a drigodd yn Normandi, o achos bod rhyfel rhyngddo a brenin Ffrainc. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.
1115. Magwyd anundeb rhwng Hywel fab Ithel, a oedd arglwydd ar Ros a Rhufoniog, a meibion Owen fab Edwin,— Gronw a Rhirid a Llywarch ei frodyr, y rhai ereill. A Hywel a anfones genhadau at Feredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn, Madoc ac Einion, i erfyn iddynt ddyfod yn borth iddo. Canys o'u hamddiffyn hwyntau a'u cynhaledigaeth yr oedd ef yn cynnal y gyfran o'r wlad a ddaethai yn rhan iddo. A hwyntau, pan glywsant ei orthrymu ef o feibion Owen, a gynhullasant eu gwyr a'u cymdeithion i gyd, cymaint ag a gawsant yn barod, yn amgylch pedwar can wr.