Ac aethant yn ei erbyn i Ddyffryn Clwyd, yr hwn a oedd wlad iddynt hwy. A hwyntau a gynhullasant eu gwyr gydag Uchtryd eu hewythr, a dwyn gyda hwynt y Ffreinc o Gaerlleon yn borth iddynt. A hwyntau a gyfarfuant a Hywel, a Meredydd a meibion Cadwgan a'u cymhorthiaid; ac wedi dechreu brwydr, ymladd o bob tu a wnaethant yn chwerw. Ac yn y diwedd y cymerth meibion Owen a'u cymdeithion ffo, wedi lladd Llywarch fab Owen a Iorwerth fab Nudd, gwr dewr enwog oodd ac wedi lladd llawer, a brathu lliaws, yr ymchwelasant yn orwag drachefn. Ac wedi brathu Hywel yn y frwydr, y dygpwyd adref; ac ymhen y deugeinfed diwrnod, bu farw Ac yna ymchwelodd Meredydd a meibion Cadwgan adref, heb lyfasu goresgyn y wlad, rhag y Ffreinc cyd ceffynt y fuddugoliaeth.
1116. Bu farw Mwrcherdarch, y brenin pennaf o Iwerddon, yn gyflawn o luosogrwydd a buddugoliaethau.
1117. Arfaethodd Henri frenin ymchwelyd i Loegr wedi heddychu rhyngddo a brenin Ffrainc, a gorchymyn a orug i'r mordwywyr gyweirio llongau iddo. Ac wedi parotoi y llongau, anfon a wnaeth ei