ddau fab yn un o'r llongau. Un ohonynt. a anesid o'r frenhines ei wraig briod. Ac o hwnnw yr oedd y tadawl obaith o'i fod yn gwladychu ar ol ei dad. A mab arall o ordderch iddo, a'i un ferch, a llawer o wyr mawr gydag hwyntau. Ac o wragedd arbennig oddeutu doucant, y rhai a debygynt eu bod yn deilyngaf o gariad plant y brenin. Ac fe roddwyd iddynt y llong oreu a diogelaf a oddefai y môr donnau a'r morolion dymhestloedd. Ac wedi eu myned i'r llong ddechreunos, dirfawr gyffroi a orug y môr donnau, drwy eu cymell o dymhestlawl fordwy drygdrwm. Ac yna cyfarfu y llong a chreigawl garreg a oedd yn ddirgel dan y tonnau heb wybod i'r llongwyr, a thorrest y llong ganddi yn ddrylliau, a boddes y meibion, a'r nifer oedd gyda hwynt, hyd na ddiengis neb onaddynt. A'r brenin a esgynasai i mewn llong arall yn eu hol. A chyd gyffroi o ddirfawrion dymhestlau y môr donnau, ef a ddiengodd i'r tir. A phan gigleu foddi ei feibion, drwg a ddaeth arno. Ac ynghyfrwng hynny y terfynnwys y flwyddyn honno.
1117. Priodes Henri frenin ferch neb un dywysog o'r Almaen, wedi marw merch y Moel Cwlwm ei wraig. A phan