ddaeth yr haf, cyffroes Henri ddirfawr greulon lu yn erbyn gwyr Powys, nid amgen Meredydd fab Bleddyn, ac Einion a Madog a Morgan meibion Cadwgan fab Bleddyn. A phan glywsant hwyntau. hynny, anfon cenhadau a orugant at Ruffydd fab Cynan, a oedd yn cynnal Ynys Fon, i erfyn iddo fod yn gydarfoll a hwynt yn erbyn y brenin, fel y gallent warchadw yn ddiofn anialwch eu gwlad. Ac yntau, drwy gynnal heddwch â'r brenin, a ddywed, o ffoent hwy i derfynau ei gyfoeth ef, y parai eu hysbeilio a'u hanrheithio, ac eu gwrthwynebai. A phan wybu Meredydd a meibion Cadwgan hynny, cymryd cyngor a wnaethant. Ac yn y cyngor y cawsant gadw terfynau eu gwlad eu hunain, a chymeryd eu hamddiffyn ynddynt. A'r brenin a'i luoedd a ddynesasant i derfynau Powys. Ac yna y danfones Meredydd fab Bleddyn ychydig o saethyddion ieuainc, i gyferbynied y brenin mewn gwrthallt goeding anial ffordd yr oedd yn dyfod, fel y gallent â saethau ac ergydiau wneuthur cynnwrf ar y llu. Ac fe a ddamweiniodd, yn yr awr y daeth y gwyr ieuainc hynny i'r wrthallt, dyfod yno y brenin a'i lu. A'r gwyr ieuainc hynny a erbyniasant yno a brenin
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/104
Gwedd