Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i lu; drwy ddirfawr gynnwrf gollwng saethau ymhlith y llu a wnaethant. Ac wedi lladd llawer a brathu ereill, un o'r gwyr ieuainc a dynnodd ei fwa ac a ollyngodd saeth ymhlith y llu. A honno a ddigwyddodd yng nghadernid arfau y brenin, gyferbyn a'i galon, heb wybod i'r gwyr a'i bwriodd. Ac nid argyweddodd y saeth i'r brenin rhag daed ei arfau, canys llurugog oedd; namyn treillio a orug y saeth drachefn o'r arfau. Ac ofnhau yn fawr a wnaeth y brenin, a dirfawr aruthder a gymerth ynddo yn gymaint haeach a phe'i brethid drwyddo. Ac erchi i'r lluaws a wnaeth babellu, a gofyn a orug pwy rai a oeddynt mor eofn a'i gyrchu ef yn gyn lewed a hynny. A dywedyd a wuaethpwyd iddo mai rhai o wyr ieuainc a anfonasid gan Feredydd fab Bleddyn a wnaethai hynny. Ac anfon a wnaeth atynt genhadau i erchi iddynt ddyfod ato drwy gynghrair. A hwyntau a ddaethant. A gofyn a wnaeth iddynt pwy a'u hanfonasai yno. A dywedyd a wnaethant mai Meredydd. A gofyn iddynt a wyddyat pa le yr oedd Feredydd yna. Ac ateb. a wnaethant y gwyddynt. Ac erchi a wnaeth yntau i Feredydd ddyfod i heddwch. Ac yna daeth Meredydd a meibion