Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1227.[1] Llas Iorwerth fab Llywarch gan Lywelyn fab Owen ym Mhowys. Ychydig wedi hynny yspeiliwyd Llywelyn fab Owen o'i lygaid gan Feredydd fab Bleddyn. A las Ieuaf fab Owen gan feibion. Llywarch fab Owen ei gefnder. Yn niwedd y flwyddyn honno llas Madog fab Llywarch gan Feurig ei gefnder fab Rhirid.

1128. Yn niwedd y flwyddyn ysbeiliwyd Meurig o'i ddau lygad.

1129. Llas Iorwerth fab Owen Cadwgan fab Gruffydd ab Cynan gan Gadwgan fab Gronw ab Owen ei gefnder, ac Einion fab Owen.

Ychydig wedi hynny y bu farw Meredydd ab Bleddyn, tegwch a diogelwch holl Bowys, a'i hamddiffyn; wedi cymeryd iachwyol benyd ar ei gorff, a gleindid edifarwch yn ei ysbryd, a chymun corff Crist, ac olew ac angen.

1130. Bu bedair blynedd ar un tu heb gael neb ystoriau ar a ellid eu gwarchadwi dan gof.

1134. Bu farw Henri fab Gwilym bastard, brenin Lloegr a Chymru a'r holl ynys oddiam hynny, yn Normandi, y trydydd dydd o fis Rhagfyr. Ac yn ei ol

  1. diawl y wasg 1127?