Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgen dau fab Owen Gwynedd, Cadwallon a Chynwrig, a Meredydd fab yr arglwydd Rhys, a rhai ereill, Ac wedi cymryd cyngor symudodd ei lu hyd yng Nghaer Lleon, ac vno pabellu a orug lawer o ddyddiau, oni ddoeth llongau of Ddulyn ac o'r dinasoedd ereill o'r. Iwerddon ato. Ac wedi nad oedd digon. gantaw hynny o longau, rhoddi rhoddion a orug i longau Dulyn a'u gollwng drachefn, ac yntau a'i lu a ymchwelodd i Loegr.

Cyrchodd yr arglwydd Rys gaer Aber Teifi a'i chastell, ac ei torres, ac ei llosges, a dirfawr anrhaith a ddug Ac achub castell Cil Geran a orug, a dala Robert Ysteffyn, a'i garcharu.

Drwy gennad Duw ac annog yr Ysbryd Glân daeth cofeint o fyneich i Ystrad Fflur.

Bu farw Llywelyn fab Owen Gwynedd, y gwr a ragores modd pawb o ddewredd, a doethineb o ddoethineb ar ymadrodd a'r ymadrodd o foesau.

1165. Daeth y Ffreinc o Benfro a'r Fflemisiaid i ymladd yn gadarn â chastell Cil Geran. Ac wedi lladd llawer o'u gwydd, dychwelasant adref yn llaw wag.