Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac eilwaith yr ymladdasant â Chilgeran yn ofer, heb gaffel y castell.

Distrywiwyd dinas Basin gan Owen Gwynedd

Gwrthladdwyd Diermid fab Mwrchath o'i genedl, a daeth hyd yn Normandi at frenin Lloegr i erfyn iddo ei ddodi yn ei gyfoeth drachefn wedi cwyno wrtho.

Gwrthladdwyd Iorwerth Goch fab Meredydd o'i genedl ac o'i gyfoeth ym. Mochnant gan y ddau Owen. A'r ddau Owen hynny ranasant Fochuant rhyngddynt, a daeth Mochnant uch Rhaeadr i Owen Cyfeiliog, a Mochnant is Raeadr- i Owen Fychan.

1166. Cyfunodd meibion Gruffydd ab Cynan o Wynedd a Gruffydd ab Rhys ab Rhys o Ddeheubarth yn erbyn Owen Cyfeiliog y dygant ganddo Gaer Einion, a rhoddasant hi i Owen Fychan fab Madog fab Meredydd. Oddiyno enillasant Dafolwern, a honno a rodded i'r Arglwydd Rhys, canys o'i gyfoeth y dywedid ei hanfod.

Ni bu hir wedi hynny oni ddaoeth Owen Cyfeiliog, a llu o'r Ffreinc gydag ef, am ben castell Caer Einion, yr hwn a wnaethoedd Cymry cyn na hynny. Ac wedi en-