frenin o'r tu arall. Ac yna llas Owen fab Dyfnwal. Ac yna goresgynodd Cnut fab Yswein frenhiniaeth Loegr a Denmarc a Germania. Ac yna llas Aedan fab Blegywryd, a'i bedwar meib, gan Lywelyn fab Seisyll. A llas Meurig fab Arthfael.
Yna dychmygodd neb un Ysgot yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin, a mynnodd ei alw ei hun yn frenin. A chymerth gwyr y deheu ef yn arglwydd ac i deyrnas, a henw un Rhein. Ac yn ei erbyn rhyfelodd Llywelyn fab Seisyll, goruchel frenin Gwynedd, a phennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Yn ei amser ef y gnotai hynafiaid. y deyrnas ddywedyd fod ei gyfoeth ef, o'r môr bwygilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid bod na thlawd nac eisiwedig yn ei holl wladoedd, na thref wag na chyfle diffyg. Ac yna dug Rhein Ysgot lu yn ddilesg; a herwydd defod yr Ysgotiaid, yn falch syberw, annog a wnaeth ei wyr i ymladd, ac yn ymddiriedus addaw a wnaeth iddynt mai ef a orfyddai. Ac ymgyfarfod a orug yn eofn a'i elynion, ac hwyntau yn wastad ddiofn a orusant y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. Ac yntau yn hy ddiofn a gyrchodd y frwy-