dyr, ac wedi gweithio y frwydyr a gwneuthur cyffredin aerfa o bobtu, a gwastad ymladd, drwy lewder y Gwyndyd, yna y gorfuwyd Rein Ysgot a'i lu. A herwydd y dywedir yn y ddibareb" Annog dy gi ac nac erlid," ef a gyrchodd yn lew eofn, ac a giliodd yn waradwyddus o lwynogol ddefod. A'r Gwyndyd yn llidiog a'i hymlynodd, drwy ladd ei lu a diffeithio ei wlad, ac ysbeilio pob man, a'u distryw hyd y Mars, ac nid ymddanghoses yntau byth o hynny allan. A'r frwydr honno a fu yn Aber Gwili.
Ac wedi hynny daeth Eilad i ynys Prydain, a diffeithiwyd Dyfed, a thorred Mynyw. Ac yna bu farw Llywelyn fab Seisyll; a chynhaliodd Rhyddereli fab Iestin lywodraeth y Deheu. Ac yna bu farw Morgeneu esgob. A llas Cynan fab Seisyll.
1030. Llas Rhydderch fab Iestin gan yr Ysgotiaid. Ac yna cynhaliodd Tago fab Idwal lywodraeth Gwynedd wedi Llywelyn fab Seisyll. A Hywel a Meredydd, feibion Edwin, a gynhalasant lywodraeth y Dehau. Ac yna bu waith Hiraethwy rhwng meibion Edwin gan feibion Cynau. A Char-