Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto




oedd, a lladd llawer o'r Ffreinc a oeddynt. yn ymchwelyd adref. Ac yntau a gych- wynnodd y wlad o bobtu, ac a'i hachub- odd, a'r castell a drigodd yn ddigyffro a'i warcheidwaid ynddo.

Ynghyfrwug hynny y gwrthladdodd. Henri frenhin Saer, marchog o Benfro, ac y rhoddes geidwadaeth y castell a'i holl derfynau i Erald ystiward, yr hwn a oedd dan Ernwlff ystiward.

Y flwyddyn honno llas Hywel fab Grouw drwy dwyll gan y Ffreine a oedd- ynt yn cadw Rhyd y Gors. Gwgawn fab Meurig, y gwr oedd yn meithrin mab i Hywel, a wnaeth ei frad fel hyn. Galw at wnaeth Gwgawn Hywel i dy a'i wahawdd, ac anfon i'r castell a galw y Ffreinc ato, a mynegi iddynt eu terfynedig le, ac aros amser yn y nos. Ac hwyntau a ddaethont amser plygain, a chylchynu y dref a'r ty yr oedd Hywel ynddo, a dodi gawr; ac ar yr awr y dihunodd Hywel yn ddilesg, a cheisio ei arfau, a dihuno ei gymdeithion. A'r eleddyf ar y daroedd iddo ei ddodi ar ben ei wely, a'i waew is y traed, a ddyg- asai Gadwgawn tra yr oedd yn cysgu. A Hywel a geisiodd ei gymdeithas wrth ym- ladd, a thebygu eu bod yn barod. Ac neur daroedd iddynt ffoi ar yr awr gyntaf o'r