Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto




nos, ac yina y gorfu arno yntau ffoi. A Gw- gawn a'i hymlidiodd yn graff, oni ddelis ef megis yr addewis. A phan ddaeth cym- deithion Cadwgawn ato, tagu Hywel a or- ugant, a’r tagedig yn farw haeach a ddyg- ant at y Ffreinc. Ac hwyntau, wedi lladd ei ben, a ymohwelasan't i’r castell.

Yn y ílwyddyn honno y gwelad seren enryfedd ei gwelediad, yn anfon paladr ohoni yn ol ei chefn, ac o braffter colofn ei rnaint, a dirfawr oleuad iddi, yn darogan yr hyn a fai rhag llaw. Canys Henri, am- herawdwr Rhufain, wedi dirfawrion fuddugoliaethau, a chrefyddusaf fuchedd i Grist, a orffwysodd; a’i fab wedi yntau, wedi cael llawer o anrhydedd ac eisteddfa amherodraeth Rufain, a wnaethpwyd yn amherawdwr.

Ac yna yr anfones Henri frenin Lloegr farchogion i ddarostwng Normandi. A chyhwrdd a hwynt a wnaeth Robert iarll o Fethlem, ac wedi gorfod arnynt eu gyrru ar ffo. Ac wedi na rymeint ddim, anfon a orugant at y brenin i geisio nerth. Ac yna y brenin ei hun, gydag amlder o farchog- ion a dirfawr lu, a fordwyodd drwodd. Ac yna y cyhyrddod â’r iarll yn ddilesg; ac ef a’i gynhorthwywyr, ac yn gywarsangedig o dra lluosogrwydd, a gymerth ei ffo; a’i