Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymlid o'r brenin oni ddelis ef a'i wyr. Ac wedi eu dala, a'u hanfones i Loeger i eu carcharu; a holl Normandi a ddarestyngwys wrth ei feddiant ei hun.

Yn y flwyddyn honno y llas Meurig a Griffri, feibion Trahaearn fab Caradog. Ac Owen fab Cadwgan.

1103. Diengis Meredydd fab Bleddyn o'i garchar, a daeth i'w wlad. A bu farw Edward, fab y Moel Cwlwm; ac yn ei le ef y cynhelis Alexander ei frawd y deyrnas.

1104. Aufoned neb un genedl ddiadnabyddus, herwydd cenhedlaeth a moesau, ni wyddid pa le yr ymguddiasent yn yr ynys dalm o flynyddoedd, gan Henri frenin i wlad Dyfed. A'r genedl honno a achubodd holl gantref Rhos ger llaw aber yr afon a elwir Cleddyf, wedi eu gwrthladd o gwbl. A'r genedl honno, megis y dywedir, a hannoedd o Fflandrys eu gwlad, yr hon sydd osodedig yn nesaf ger llaw mor y Brytaniaid; o achos achub o'r môr a goresgyn eu gwlad, hyd oni ymchweled yr holl wlad ar anghysondeb, heb ddwyn dim ffrwyth, gwedi bwrw o lanw o'r môr dywod i'r tir. Ac yn y diwedd, gwedi na chelfynt le i breswylio, canys y môr a ddineuasai ar draws yr arfordiroedd, a'r mynyddoedd yn gyflawn o ddynion hyd na