Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
Brut y Tywysogion.
44
allai bawb breswylio yno o achos amlder y
dynion a bychaned y tir,—y genedl honno
a ddeisyfodd Henri frenin, ac a adolygasant iddo gaffael lle y preswylient ynddo.
Ac anfoned hyd yn Rhos, trwy wrthladd
oddiyno y priodolion giwdawdwyr, y rhai a
gollasant eu priod wlad a’u lle er hynny.
Ynghyfrwng hynny, Gerald ystiwart Penfro a rwndwaliodd gastell Cenarch Bychan,
ac ansoddi a wnaeth yno, a llehau yno ei
holl oludoedd, a’i wraig, a’i etifeddion, a’i
holl anwylyd, a’i gadarnhau a wnaeth o
glawdd a mur.