yng Ngheredigion, ac a'i goresgynnodd; ac a adeilodd ddau gastell ynddi, nid angen gyferbyn a Llan Badarn yn ymyl aber yr afon a elwir Ystwyth a'r llall gerllaw aber Teifi, yn y lle a elwir Dingereint, y lle y grwndwalasai Roger iarll cyn na hynny gastell.
Ac wedi ychydig o amser yr ymchwelodd Madog ab Rhirid o Iwerddon heb allel goddef annynolion foesau y Gwyddyl. Ac Owen a drigodd yno yn ei ol dalm o amser A Madog a aeth i Bowvs; ac nid arfolled ef nag yn hygar nag yn drugarog gan Iorwerth ei ewythr, rhag ei gynnal yn gylus gan y brenin oherwydd cyfraith a drwg weithred od ymgyffredinni â'i nai o ddim. Ac yntau, yn wibiadur, a lechodd hwnt ac yma, gan ochel cynddrychiolder Iorwerth. Iorwerth a wnaeth gyfraith byd na bai a feiddiai ddywedyd dim wrtho am Fadog, na mynegi dim am dano, gwelid na welid. Ynghyfrwng hynny arfaethu a wnaeth Madog gwneuthur brad Iorwerth ei ewythr. A dal cyfeillach a orug a Llywarch fab Trahaearn. Ac ymarfoll i gyd a wnaethant yn ddirgeledig; ac eisoes 'r terfyn hwnnw y daethant.
1108. Paratoes Madog frad Iorwerth, a cheisio amser a chyfle a wnaeth i gyf-