Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi am hynny ?" "Nis gwn i, arglwydd, ebe Cadwgan. Yna dywed y brenin, "Gan na elli di gadw dy gyfoeth rhag cymdeithas dy fab hyd na laddon fy ngwyr eilwaith, mi a roddaf dy gyfoeth i'r neb a'i cadwo; a thithau a drig gyda mi drwy yr amod hwnyma, na sethrych di dy briod wlad; a mi a'th borthaf di o'm hymborth i oni chymerwyf gyngor am danat." A rhoddi a orug y brenin bedair ar hugain iddo beunydd yng nghyfer ei draul. Ac yna y trigodd heb ddodi gefyn arno, namyn yn rhydd y ffordd y mynnai eithr i'w wlad ei hun.

Ac wedi clybod o Owen ysbeilio ei dad o'i gyfoeth, cyrchu Iwerddon a orug ef a Madog fab Rhirid. Ac wedi hynny anfon o orug y brenin at Gilbert fab Ricert,—yr hwn oedd ddewr moliannus galluus a chyfaill i'r brenin, a gŵr ardderchog oedd yn ei holl weithredoedd,—i erchi iddo ddyfod ato; ac yntau a ddaeth. A'r brenin a ddywed wrtho, "Yr oeddit yn wastad yn ceisio rhan o dir y Brytaniaid gennyf. Mi a roddaf it yr awr hon dir Cadwgan. Dos, a goresgyn ef." Ac yna ei cymerth yn llawen gan y brenin. Ac yna, gan gynnull llu, gyda'i gymdeithion daeth hyd