Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r Ffreinc yna a gymerasant gyngor, a galw penaethau y wlad atynt, nid amgen Owen fab Cradog fab Rhydderch, y gŵr y rhoddasai Henri frenin iddo ran o'r Cantref Mawr; a Meredydd fab Rhydderch, yr hwn a ddywedasom ni fry: a Rhydderch fab Tewdwr, a'i feibion Meredydd ac Owen, mam y rhai hynny, gwraig Rhydderch ab Tewdwr, oedd Hunydd, ferch Bleddyn ab Cynfyn, y pennaf o'r Brytaniaid wedi Gruffydd ab Llywelyn, y rhai oedd yn frodyr un fam; canys Angharad, ferch Feredydd frenin y Brytaniaid, oedd eu mam eill dau, ac Owen fab Caradog fab Gwenllian ferch y dywededig Fleddyn, y rhai, a llawer o rai ereill, a ddaethant ynghyd. A gofyn a orug y Ffreinc iddynt a oeddynt oll ffyddlonion i Henri frenin; ac ateb a wnaethant eu bod. A dywedyd a wnaeth y Ffreinc wrthynt,—"Od ydych fel y dywedwch, danghoswch ar eich gweithredoedd yr hyn ydych yn addaw ar eich tafod. Rhaid yw i chwi gadw castell Caerfyrddin, yr hwn a bie y brenin, pob un ohonoch yn ei osodedig amser, fel hyn, cadw y castell o Owen fab Cradog bythewnos, a Rhydderch fab Tewdwr pythewnos arall, a Meredydd fab Rbydderch ab Tewdwr pythewnos."