Ac i Bledri fab Cadifor y gorchymynwyd castell Robert Lawgam yn Abercofwy.
Ac wedi ansoddi y pethau hynny, Gruffydd ab Rhys a bryderodd am anfon disgwyliaid am dorri y castell neu ei losgi. A phan gafas amser cyfaddas fel y gallai yn hawdd gyrchu y castell, yna y damweiniodd fod Owen fab Caradog yn cadw ynghylch y castell. Ac yna y dug Gruffydd ab Rhys gyrch nos am ben y castell. A phan gigleu Owen a'i gymdeithion gynnwrf y gwyr, a'u gewri yn dyfod, cyfod yn ebrwydd o'r ty lle yr oedd ef a'i gymdeithion a wnaethant. Ac yn y lle y clywai yr awr, ef ei hun a gyrchodd ym mlaen ei fyddin, a thebygu fod ei gymdeithon yn ei ol; hwyntau, wedi ei adaw ef ei hunan, a ffoasant; ac felly ei llas yna. Ac wedi llosgi y rhag-gastell, heb fyned i mewn i'r tŵr, ymchwelodd ag yspeilion. ganddo i'r notaedigion goedydd. Oddiyno ymgynhullasant ieuainc ynfydion y wlad o bob tu ato, o debygu gorfod ohono ar bob peth o achos y damwain hwnnw; canys castell a oedd yng Ngwyr a losgest ef o gwbl, a lladd llawer o wyr ynddo. Ac yna gadewis Gwilym o Lundain ei gastell rhag ei ofn, a'i holl anifeiliaid a'i oludoedd. Ac wedi darfod hynny,—megis y