Ac wedi dyfod Gruffydd fab Rhys, yn gyntaf y daeth i Iscood. Ac yna cyrchodd y lle a elwir Blaen Porth Hodnant, yr hwn a adeilasai neb un Fflemiswr; ac yno y daeth y Fflemisiaid i drigo. Ac wedi ymladd dyddgwaith ar hyd y dydd, a lladd llawer o wyr y dref, a lladd un o'i wyr yntau, a llosgi y rhan fwyaf o'r dref, heb gael dim amgen na hynny ymchwelodd drachefn. Oddiyno y rhuthrodd gwyr y wlad ato, o ddieflig anogedigaeth, yn gyfun, megis yn ddisyfyd. A'r Saeson, a ddygasai Gilbert cyn na hynny i gyflenwi y wlad, yr hon cyn na hynny o anamlder pobloedd a oedd wag falch, a ddiffeithasant ac a laddasant, ac a yspeiliasant ac a losgasant eu tai. A'u hynt a'u cynnwrf a ddygant hyd ym Mhenwedig. A chylchynu a orugant gastell Razon ystiward, yn y lle a elwir Ystrad Peithyll, ac ymladd ag ef a orugant, a'i orchfygu; ac wedi lladd llawer ynddo, ei losgi a wnaethant. A phan ddaeth y nos, pabellu a wnaeth yn y lle a elwir Glasgrug, megis ar filltir oddiwrth eglwys Badarn. Anafrwydd a wnaethant yn yr eglwys, dwyn yr yscrubl yn fwyd iddynt o'r eglwys. A bore drannoeth ymarfaethu a wnaethant â'r castell a oedd yn Aberystwyth, gan
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/91
Gwedd