debygu ei orfod; ac yna y danfones Razon. ystiward, gŵr a oedd gastellwr ar y castell hwnnw, ac y llosgasid ei gastell yntau cyn na hynny ac y lladdesid ei wyr, yn gyffoedig o ddolur am ei wyr ac am y golled, ac yn ergrynedig rhag ofn, (?) genhadau hyd nos i gastell Ystrad Meurig, yr hwn a wnaethodd Gilbert ei arglwydd cyn na hynny, i erchi i'r castellwyr oedd yno ddyfod ar ffysg yn borth iddo. A gwarcheidwaid y castell a anfonasant ato gymaint ag a allasent ei gaffael, ac hyd nos y daethant ato. Trannoeth y cyfodes Gruffydd fab Rhys, a Rhydderch fab Tewdwr ei ewythr, a Meredydd ac Owen ei feibion, yn ansynhwyrus o'u pebyll, heb gyweirio eu byddin, ac heb osod arwyddion o'u blaen; namyn bileinllu, megis cyweithas o giwdawd bobl ddigyngor, heb lywiawdwr arnynt, y cymerasant eu hynt parth a chastell Aberystwyth, yn y lle yr oedd Razon ystiward a'i gymhorthiaid gydag ef, heb wybod onaddynt hwy hynny oni ddaethant hyd yn Ystrad Antaron, a oedd gyferwyneb â'r castell. A'r castell a oedd osodedig ar ben mynydd, a oedd yn llithro hyd yn afon Ystwyth, ac ar yr afon yr oedd pont. Ac fel yr oeddynt yn sefyll yno, megis yn gwneuthur magnel-
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/92
Gwedd