Ynghyfrwng hynny damweiniodd dyfod llu o Fflemisiaid o'r Rhos i Gaer Fyrddin yn erbyn mab y brenin, a Gerald ystiward gyda hwynt. Nachaf y rhai a ddiangasant yn dyfod dan lefain tua'r castell, ac yn mynegi eu hysbeilio o Owen fab Cadwgan, a'u hanrheithio. A phan gigleu y Fflemisiaid hynny, enynnu a wnaethant o gasawl gynhorfynt yn erbyn Owen, o achos y mynych goddiant a wnaethai cymdeithion Owen iddynt cyn na hynny Ac o anogedigaeth Gerald ystiward, y gŵr llosgasai Owen ei gastell ac y dygasai i drais Nest ei wraig a'i anrheithio, ymlid a orngant. Heb debygu fod gwrthwynebydd iddo, Owen a gymerth ei hynt yn araf. A hwyntau, gan ei ymlid ef, a ddaethant yn ebrwydd hyd y lle yr oedd ef, a'r anrhaith ganddo. A phan welas cymdeithion Owen ddirfawr luosogrwydd yn eu hymlid, dywedyd a wnaethant wrtho,—"Llyma luosogrwydd yn ymlid, heb allu o nebi ymwrthladd â hwynt." Ateb. iddynt a wnaeth,—"Nac ofnwch heb achos, byddinoedd y Fflemisiaid ynt." Ac wedi dywedyd hynny eu cyrchu a wnaeth. A dioddef y cynnwrf a wnaethant yn wrol; ac wedi bwrw saethau o bob tu y digwyddodd Owen yn frathedig. Ac wedi
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/96
Gwedd