Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ddigwydd ef, ymchwelodd ei gymdeithion ar ffo. A phan gigleu Lywarch ab Trahaearn hynny, ymchwelyd, ef a'i wyr, a wnaeth drachefn i'w wlad.

Ac wedi ei ladd ef, cynhaliodd ei frodyr ei ran ef o Bowys oddieithr yr hyn a ddygasai Owen cyn na hynny gan Meredydd fab Bleddyn, nid amgen Caereinion, yr hwn oedd eiddo Madog fab Rhirid cyn na hynny. Ac enwau ei frodyr yw y rhai hyn, Madog ab Cadwgan, o Wenlian, ferch Gruffydd ab Cynan: ac Einion fab Cadwgan, o Sanan, ferch Dyfnwal; a'r trydydd oedd Wrgan fab Cadwgan, o Ellyw, ferch Cadifor fab Collwyn, y gŵr a fu bennaf arglwydd ar wlad Dyfed; pedwerydd fu Henri fab Cadwgan o'r Ffrances ferch Pictot, tywysog o'r Ffreinc, ac o honno y bu fab arall iddo a elwid Gruffydd; y wheched fu Meredydd, o Euron, ferch Hoedlyw ab Cadwgan ab Elstan.

Ac wedi hynny yr ymarfolles Einion fab Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Meredydd ab Bleddyn ynghyd i ddwyn cyrch am ben castell Uchtryd fab Edwin, a oedd gefnder i Fleddyn frenin. Canys Iwerydd, mam Owen ac Uchtryd feibion Edwin, a Bleddyn fab Cynfyn, oeddynt